Prosiect  Sir Wrecsam - Adroddiad
                                                                  Prosiectau a Digwyddiadau

_____________________________________

Oes Fictoria

(Engrhaifft 1) Plant yn Gweithio  

Diflas iawn oedd bywyd plentyn tlawd yn y cyfnod yma.

Roedd nifer o blant yn gorfod gweithio o dan y ddaear yn ifanc iawn. Oherwydd eu maint gallent grwydro drwy’r twneli cul yn hawdd. Rhan o’u gwaith oedd gweithio a thynnu cerbydau’n llawn glo, ac agor a chau drysau aer.

Dewiswyd plant eraill i lanhau simneiau yn nhai moethus y teuluoedd cyfoethog. Gwaith anodd a budr oedd dringo simnai gyfyng, oedd weithiau’n dal yn boeth. Rhaid oedd gweithio’n gyflym neu gael pigiad pin yn y sawdl gan eich meistr.

Diwrnod hir oedd diwrnod gwaith plentyn mewn ffatri gotwm. Cychwyn yn gynnar yn y bore a gweithio am tua 16 awr am gyflog gwael iawn. Roedd natur y gwaith yn beryglus iawn wrth i’r plant orfod cropian o dan y peiriannau swnllyd i godi tameidiau o gotwm o’r llawr.

(Engrhaifft 2) Plant yn Gweithio  

Dwi’n hapus fy mod i’n byw heddiw. Dwi ddim yn gorfod gweithio mewn pwll glo. Ar ôl ysgol dwi’n chwarae yn y parc. Dwi’n chwarae pêl-droed. Rydw i’n cael cit Man U i chwarae. Roedd y plant yn fudr ers talwm a gwneud lot o waith.

Mae gen i tân nwy yn ty ni dim tân glo. Dwi’n eistedd o flaen y tân i wylio teledu a chwarae efo Game Boy fi.

Lot yn ôl doedd plant ddim yn chwarae. Roedd plant yn y ffatri.

 

 

(Engrhaifft 3) Plant yn Gweithio  

Roedd plant bach yn mynd i fyny simneiau. Roedd rhai yn dal yn boeth. Roedd y bobl yn rhoi pinnau bawd yn nhraed y plant, i wneud iddyn nhw fynd i fyny yn sydyn. Dwi’n siwr fod hyn yn boenus iawn. Roedd llawer o bobl angen glo. Roedd llawer o bobl yn gweithio yn y pwll glo. Roedd y glo yn dod allan efo dwylo, wedyn roedd y plant yn rhoi’r glo mewn cartiau i dai bobl. Mae’n siwr fod dillad a chroen pawb yn ddu efo llwch glo.

Roedd plant yn gweithio mewn ffatrioedd. Roeddynt yn cael cyflog bach iawn am lawer o waith caled. Roedd y meistr yn gwneud elw mawr. Dwi ddim yn meddwl fod hyn y deg o gwbl.

(Engrhaifft 4) Plant yn Gweithio  

Un tro roedd plant yn gweithio o dan y ddaear i gael glo. Roedd hi’n dywyll yn y pwll glo, plant yn crio eisiau mynd adre, a’r dillad yn fudr. Roedd llawer o farciau llwch glo ar eu dwylo a’u penliniau, a rhain yn gwaedu.

Roedd plentyn bach tennau yn mynd i fyny’r simne yn y ty mawr, achos roedd yr oedolion yn rhy fawr i ffitio. Roedd yn cario brws a wedi cael ei bigo yn ei droed. Dwi’n meddwl fuaswn i wedi rhedeg i ffwrdd. Doedd o ddim yn deg fod plant yn gorfod gweithio o dan y peiriannau mewn ffatri chwaith.

 

_____________________________________