Prosiect  Sir Wrecsam - Adroddiad
                                                                  Prosiectau a Digwyddiadau

_____________________________________

STADIWM Y MILENIWM

Roedd stadiwm newydd sbon danlli wedi ei adeiladu llynedd yng Nghaerdydd. Mae Stadiwm y Mileniwm yn fwy na stadiwm rygbi. Yno, mae bwytai, siopau, caffis, bariau, canolfannau hyfforddi, swyddfeydd a chanolfanau chadw’n heini. Ymhen tua dwy flynedd mi fydd yno amgueddfa. Mae croeso yno i deuluoedd a phobl anabl. Mi fydd cyngherddau roc, bocsio, sioeau, gemau pêl droed, cynhadleddau a phriodasau yn ogystal â gemau rygbi yn cael eu cynnal yno.

Roedd cyngerdd enfawr yno ar nos Calan i groesawi’r Mileniwm gyda Manic Street Preachers yn un o’r grwpiau oedd yn diddori.

BALCONI’R BYD

Ar lan yr Afon Taf, tu allan i Stadiwm y Mileniwm, mae Balconi’r Byd. Balconi’r Byd yw llwybr ger yr afon, ac ar y palmant mae mosaics. Mae un mosaic i pob gwlad a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd. Mae modd i unrhyw un brynu darn o balmant y llwybr a rhoi neges orno. Dywedodd James Dean Bradfield, canwr y Manic Street Preachers, "Does dim rhaid i chi fod yn ffan rygbi i brynu darn o’r palmant. Mae’n gyfle gwych i bawb hawlio darn o hanes Cymru." Gosodwyd y palmant yn Ionawr 2000, yn barod am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2000.

Y GWAIR

Côst y maes ei hun oedd £1.5 miliwn. Pan gynhelir digwyddiadau eraill yno, gellir symud y gwair i gyd. Tyfwyd y gwair yn Aberystwyth mewn 7412 paled sy’n pwyso hanner tunnell yr un. Aberelf yw enw’r hadau gwair. O dan y gwair, mae tywod, yna tarmac. Gan fod system ddraenio dda a system wres effeithiol yno, nid yw mwd, dwr na rhew yn broblem. Cymerir deg diwrnod i godi’r gwair, a deg diwrnod i’w osod yn ôl. Y stadium yma yw’r unig un yn Europ gyda gwair symudol. Mae yna un stadiwm debyg yn y byd sef stadiwm tîm pêl fâs y New York Yankees.

CWPAN RYGBI’R BYD

Ar 1 Hydref 1999, dechreuodd cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm. Cymru oedd yn chwarae yn y gêm agoriadol ac mi roedd pob llygad ar y tîm. Cynhaliwyd y gystadleuaeth mewn tair gwlad wahanol ac mewn 18 maes. Cafodd y gemau eu darlledu i 147 o wledydd - tair biliwn o bobl wedi gweld Cymru, Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm!!

Allan o "Cip" – gyda chaniatâd Urdd Gobaith Cymru

 ______________________________________