Prosiect  Sir Wrecsam - Dangosiad
                                                             Prosiectau a Digwyddiadau

___________________________________ 

MAE TAD UN O DDISGYBLION YSGOL CYNDDELW YN
TREFNU GWYLIAU BEICIO MYNYDD

 

Yng nghanol mynyddoedd y Berwyn, rhwng bryniau Sir Amwythig a mynyddoedd y Cambrian, mae Dyffryn Ceiriog yn swatio.
Mewn ardal naturiol o brydferth fel hon, mae beicio yn brofiad byth-gofiadwy – milltir ar ôl milltir o lwybrau ceffylau, a ffyrdd "B" distaw, llwybrau chwareli a choedwigoedd.

Gallwch ddewis rhwng dringo a disgyn serth neu lwybrau mwy gwastad ar hyd y dyffryn, gan fod gennym rhywbeth at ddant bawb - o’r profiadol i’r dysgwr.

Byddwch yn barod am ddigonedd o fwd a dwr ar adegau!!

 

Gwyliau mynyddoedd y Berwyn
Nantlais, Ffordd Y Chwarel, Glyn Ceiriog

FFORDD:
A5 – o’r De,
A483 o’r gogledd
Dilynwch arwyddi "Y Waun"
Troi i’r B4500 i Glyn Ceiriog (6 milltir)

TREN:
Gorsaf Agosaf – Y Waun

 

______________________________________