|
Ysgol Bryn Tabor
Dylai Ysgol Bryn Tabor gael gwell adeiladau nac
sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Lleolir yr ysgol yng Ngoedpoeth, a’r dref agosaf
yw Wrecsam. Ym mhentref Coedpoeth mae tair ysgol sef Ysgol Babanod
Penygelli, Ysgol Iau Penygelli ac Ysgol Gymraeg Bryn Tabor. Ar hyn o
bryd mae Ysgol Bryn Tabor yn rhannu adeiladau efo Ysgol Babanod
Penygelli. Nid yw hyn yn drefniant boddhaol.
Yn gyntaf does dim digon o le ar y buarth nac ar y
cae i’r plant i gyd chwarae. Felly mae’n rhaid cael amser chwarae
gwahanol i blant y ddwy ysgol. Anfantais hyn ydi ei bod hi’n anodd
iawn i blant un ysgol ganolbwyntio ar eu gwaith pan fo plant yr ysgol
arall yn chwarae’n swnllyd y tu allan. Wrth gwrs, mae’n rhaid i
blant gael cyfle i wneud swn wrth chwarae!
Yn ail, mae’n rhaid rhannu’r neuadd. Er fod
hyn yn anghyfleus oherwydd amser gwasanaeth, amser cinio a gwersi addysg
gorfforol, nid yw’n broblem enfawr am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Ond
amser cyngherddau Nadolig, Gwyl Ddewi, a Noson Wobrwyo mae’n achosi
hunllefau i’r ddau brifathro a chur pen mawr i’r athrawon. Tydi hi
ddim yn deg disgwyl i bobl weithio dan amgylchiadau fel hyn.
Yn drydedd, a dyma’r broblem fwyaf o lawer, mae
helynt y parcio. D’oes dim maes parcio hwylus wrth yr adeiladau.
Byddai hyn yn beryglus pe tae ond un ysgol ar y safle, ond gyda dwy
ysgol mae’n sefyllfa erchyll.
Gellir datrys y broblem mewn un a ddwy ffordd.
Gellir codi estyniad at Ysgol Iau Penygelli ac uno’r ddwy ysgol
cyfrwng Saesneg ar un safle. Byddau hynny o fantais iddynt hwy hefyd. Yr
ateb arall fyddai codi adeilad newydd sbon i gartrefu Ysgol Bryn Tabor.
Mae un peth yn sicr – mae hi’n amhosibl i
bethau parhau fel y maent.
Blwyddyn 5, Ysgol Bryn Tabor
______________________________________
|