Prosiect  Sir Wrecsam - Dangosiad
                                                             Prosiectau a Digwyddiadau

___________________________________

Llythyrau Llwynog

RHIF 1

Annwyl Syr

Dwi’n meddwl dylai nhw gael’i banio achos mae nhw’n bwyta wyn a ieir.

Anifeiliaid gwyllt ydy nhw ac mae na ormod ohonyn nhw. Mae nhw wedi lladd deg o wyn ar ein fferm ni yn barod. Er fod pobl yn hoffi llwynogod ac yn meddwl eu bod nhw’n ddel, mae hynny i fyny iddi’n nhw ond dwi’n meddwl fod rhaid eu stopio nhw rhag lladd ein anifeiliaid ni.

Oddi wrth,

 

RHIF 2

Annwyl Syr

Dylid caniatau hela yng nghefn gwlad oherwydd fod llwynogod yn bygwth bywoliaeth y ffermwr.

Mae sefyllfa ffermio yn ddigon bregus fel y mae hi oherwydd fod y llywodraeth yn gwrthod rhoi cefnogaeth ariannol iddynt.

Ymddengys fod nifer y llwynogod yn dal i gynyddu ac felly mae’n hanfodol parhau i’w hela er mwyn rheoli eu niferoedd. Arwydd o hyn yw fod llwynogod bellach yn byw yn y trefi yn ogystal ag yn y wlad. Mae llwynogod yn gwasgaru sbwriel o finiau sydd nid yn unig yn anharddu yr amgylchedd ond hefyd yn lledaenu afiechydon ac yn denu llygod mawr.

Gwyddys fod llwynogod yn fwy o glydwyr y gynddaredd na chwn yn y wlad yma. Mae’r cyhoedd yn ymwybodol fod llwynogod yn bla a dylid eu difa.

Mae lle i lwynogod mewn bywyd ond mae angen eu rheoli.

Yr eiddoch yn gywir,

 

RHIF 3

Annwyl Syr

Dylid caniatau hela llwynogod. Er fod rhai yn meddwl eu bod yn ddel dydy hynny ddim yn rhoi’r hawl iddyn nhw ladd anifeiliaid fferm.

Mae llwynogod yn cario afiechydon. Maent yn creu llanast mewn trefi. Mae llwynogod yn lladd wyn ac ieir ar ffermydd. Pe tae llwynog yn bwyta eich anifail anwes chi, ni fyddai hynny’n beth braf iawn. Weithiau maent yn gallu achosi damwain ar y ffordd fawr drwy redeg allan o flaen car.

Diolch yn fawr,

 

RHIF 4

Annwyl Syr

Mae llwynogod yn boen. Roedd un wedi lladd fy nghwningen. Cefais fy nghwningen yn antheg penblwydd - un ddu a gwyn ddel oedd hi. Roeddwn yn drist pan ddaru Dad gladdu’r gwningen yn yr ardd. Mae eisiau saethu nhw i gyd fel fod neb yn diodde’ fel fi. Dwi’n mynd i gael cwningen arall ond ni fydd hyn yn dod â Bugs yn ôl.

Gan,

 

______________________________________