Prosiect  Sir Wrecsam - Dangosiad
                                                         Prosiectau a Digwyddiadau

_________________________________

Peryglon Ysmygu

Mae ysmygu yn lladd. Mae nifer o bobl yn meddwl ei fod yn beth ffasiynol i’w wneud, heb feddwl am y canlyniadau.

Yn gyntaf mae sigarets yn ddrud. Gwastreffir arian mawr ar gemegau a all ladd. Byddai’n fwy buddiol defnyddio’r arian i fwydo a dilladu plant, talu am wyliau neu fynd allan i fwynhau. Gellir casglu swm enfawr o arian yn ystod y flwyddyn drwy beidio ysmygu.

Rheswm arall yw fod ysmygu yn niweidio’r corff. Trwy ddifetha eich ysgyfaint, mae’n niweidio eich iechyd. Gall canser ddatblygu yn eich ysgyfaint a’ch lladd. Byddwch yn fyr eich gwynt, a gall ysmygu achosi afiechyd ar y galon.

Yn osgystal â niweidio eich iechyd eich hun gall ysmygu effeithio ar bobl o’ch cwmpas. Gelwir hyn yn ysmygu goddefol. Pan ysmygwch yn agos at rhywun gallent anadlu mwg o’ch sigaret, sy’n effeithio ar eu cyrff hwythau. Felly cyn tanio sigaret, meddyliwch am y bobl o’ch cwmpas!

Dywed rhai pobl fod ysmygu yn eu helpu i ymlacio a theimlo yn well dan bwysau. Dylai’r posibilrwydd o ddifetha eu cyrff yn llwyr yn ogystal â chyrff pobl ddiniwed, or-bwyso eiliadau o deimlo’n dda.

Blwyddyn 5 Ysgol Plas Coch

______________________________________