Prosiect  Sir Wrecsam - Esboniad
                                                    Prosiectau a Digwyddiadau

________________________________

Y Ddaear yn y Gofod

Planed yw’r Ddaear sydd yn rhan o blanedau cysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn y bydysawd. Mae’r Ddaear a’r holl blanedau eraill sydd yng nghysawd yr haul yn troi o gwmpas yr haul. Cymer flwyddyn i’r Ddaear droi unwaith o gwmpas yr haul. Y broses hon sy’n dylanwadu ar y tymhorau.

Yn ogystal â throi o gwmpas yr haul mae’r Ddaear hefyd yn troi ar ei hechelin ei hun. Digwydd hyn unwaith pob diwrnod neu bob 24 awr.

Pan mae’r Ddaear yn troelli fel hyn mae ei hanner yn symud o’r goleuni i’r tywyllwch. Canlyniad hyn yw dydd a nos.

Mae gan y Ddaear un lleuad. Cymer 28 diwrnod, neu tua mis i’r Lleuad droi a gwmpas y Ddaear. Orbit yw’r enw ar lwybr y Lleuad.

________________________________