|
Y Gylchred Dwr
Gall dwr fod yn solid, hylif neu yn nwy.
Pan mae tymheredd dwr yn gostwng o dan 0oC
– rhewbwynt – mae’n ymsolido, sef newid o fod yn hylif i fod yn
solid. Rhew yw’r enw ar y solid yma.
Pan mae tymheredd dwr yn codi uwchben 100oC
– pwynt berwi – mae’n anweddu, sef newid o fod yn hylif i fod yn
nwy. Anwedd dwr yw’r enw ar yr hylif yma.
Wrth i’r anwedd dwr oeri mae’n cyddwyso
ac yn troi’n ôl yn hylif. Enghraifft o hyn yw pan fydd tegell yn berwi
a’r anwedd dwr yn taro wyneb oer fel ffenestr, bydd yn cyddwyso a throi'
n ôl yn hylif.
Wrth i rew gynhesu mae’n ymdoddi ac yn
troi’n ôl yn hylif.
Mae’r ddwy broses uchod yn gildroadwy.
______________________________________ |