|
Enghraifft 1
Y Glust
Mae clustiau yn gweithio trwy gasglu synau a’u gyrru i’r
ymennydd. Mae nhw fel twmffat yn hel y synau a’u bownsio nhw at
yr ymennydd sy’n gwneud synwyr ohonynt. Mae’r twnel yn eich
clust yn arwain hefyd at eich trwyn, felly weithiau os bydd
ganddoch annwyd drwg gallwch gael pigyn clust hefyd.
|
Engrhaifft 2
Sut mae’r glust yn gweithio?
Mae’r glust yn un o organau’r
corff.
Mae tair rhan i’r glust – y
rhan allanol, y rhan ganol a’r rhan fewnol. Y rhan allanol sy’n
weladwy ar ochr y pen. Cartilag ydyw gan fwyaf, ac mae ei siap yn
bwrpasol i gasglu’r synau a’u harwain i gamlas y glust. Mae’r
glust ganol yn cynnwys drwm y glust a thri asgwrn sy’n cludo’r
sain – morthwyl, einion a gwarthol.
Yn y glust fewnol mae tiwb siap
cragen malwen o’r enw cochlea sy’n llawn hylif.
Mae swn yn teithio trwy’r glust
allanol ac yn dirgrynu drwm y glust sy’n cyffwrdd â’r
morthwyl. Mae’r morthwyl yn gyrru’r dirgryniadau trwy’r
einion a’r gwarthol i’r glust fewnol. Mae’r cochlea yn troi’r
dirgrymiadau yn ysgogladau trydanol. Mae’r rhain yn teithio i’r
ymennydd fydd yn dehongli’r swn.
Gan fod nifer o rannau sensitif i’r
glust, yn enwedig y glust ganol a’r fewnol, mae’n ddoeth
peidio gwthio dim i’ch clustiau gan eu bod yn hawdd i’w
niweidio.
|
|
Engrhaifft 3
Clustiau
Mae’r ymennydd yn gwneud synwyr o’r synau sy’n dod trwy eich
clustiau. Mae yna bethau yn eich clustiau sy’n symud wrth i swn
eu taro. Cyn iddynt ddirgrynu mae’n rhaid iddynt gael eu casglu
gan ran allanol eich clust, ac wedyn maent yn symud i’r rhan
fewnol lle maent yn gwneud i bethau symud.
Os nad ydych yn gallu clywed rydych
chi’n fyddar – fel ‘na mae rhai pobl wedi cael eu geni. |
Engrhaifft 4
Mae synau yn cael eu casglu gan y glust allanol. Maent yn dirgrynu
drwm y glust, y morthwyl, einion a’r gwarthol yn y glust. Wedyn
mae’r cochlea yn gwneud y dirgryniadau yn ysgogiadau trydanol sy’n
cael eu deall gan yr ymennydd.
|