Prosiect  Sir Wrecsam - Trefniadol
                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

______________________________

ARBRAWF

NOD: Darganfod pa ddefnydd yw’r ynysydd thermol gorau

I wneud yr arbrawf, byddwn yn defnyddio pum can – un wedi’i lapio mewn ffoil, un mewn cotwm, un mewn papur cegin, un mewn darn o fag plastig ac un can heb ddim o’i amgylch.

I ddechrau, bwriadwn lapio’r defnyddiau o amgylch y caniau. Yna, ar ôl berwi dwr, byddwn yn arllwys yr un faint o ddwr i bob can. Rhaid gwneud hyn yn sydyn, ond yn ofalus i sicrhau fod y dwr ar yr un tymheredd wrth gael ei arllwys i’r caniau. Yna, byddwn yn mesur tymheredd y dwr efo themomedr, bob tri munud am un munud ar hugain, gan nodi’r tymheredd yn y tabl. Byddwn yn gwneud yn siwr nad ydym yn tynnu’r themomedr o’r can wrth ddarllen y tymheredd.

Ar ôl cwblhau’r arbrawf, gobeithiwn fod wedi darganfod ym mha gan mae'r dwr gynhesaf, a felly, pa ddefnydd yw'r ynysydd thermol gorau.

Blwyddyn 5, Ysgol Plas Coch
___________________________________