Prosiect  Sir Wrecsam - Trefniadol
                                                            Prosiectau a Digwyddiadau

__________________________________

Sut i adeiladu melin wynt

Byddwch angen:

  • Darn sgwâr o gerdyn tenau
  • Siswrn
  • Dwy bin
  • Gleiniau
  • Darn o bren tenau
  • Pensil

Dull

(1) Torrwch sgwâr 15 cm x 15 cm o’r cerdyn. Plygwch ef o gornel i gornel, ac yna’i agor.

(2) Plygwch ef o’r gornel arall i’r llall, a’i agor.

(3) Gwirwch fod gan y sgwâr blygiadau fel yn niagram "c"

(4) Torrwch o un gornel, ar hyd y plygiad, gan aros hanner ffordd o’r canol

(5) Defnyddiwch bensil i roi smotyn yng nghornel chwith pob rhan. Gwnewch dwll blaen pin drwy bob dot, ac un drwy’r canol.

(6) Rhowch lain bach ar y pin

(7) Plygwch un o’r corneli i’r canol, a rhowch y pin drwy’r twll

(8) Plygwch y gornel nesaf drosodd a rhowch y pin drwodd. Gwnewch yr un fath efo’r ddwy gornel arall. Yn olaf, rhowch y pin drwy’r twll canol. Rhowch yr ail lain ar y pin, a gwthiwch y pin i mewn i’r darn pren.

 

 

 

1

 

2

 

3

 

 

 

4

 

5

 

 

 

6

 

7

 

 

 

8