|
(1) Cyfarwyddiadau
-
blawd
-
beicarb
-
siwgr
-
wy
-
llefrith wedi suro
-
menyn
-
ffrwythau sych
Hidlwch y ddau gynhwysydd cyntaf i
bowlen.
Rhowch y gweddill yn y bowlen a’u
cymysgu.
Bydd angen toddi’r menyn gyntaf.
Coginiwch y teisennau cri mewn padell
ffrio boeth iawn, gan eu troi drosodd nes eu bod yn barod.
Bwytewch nhw’n boeth neu yn oer, efo
menyn.
|
(2) Cyfarwyddiadau
Gwnaethom deisennau cri
Heddiw, yn ystafell 7, gwnaethom
deisennau cri. Cafodd pawb gyfle i hidlo’r blawd a’r beicarb.
Rhoddais i’r siwgr i mewn, rhoddodd Beca’r wy i fewn ac Iwan
roddodd y llefrith. Tarodd Iwan y bowlen drosodd gan golli rhywfaint o’r
gymysgedd. Fi wnaeth lanhau’r llanast.
Wedi cymysgu’r cynhwysion, roedd yn
rhaid tywallt y menyn a’i gymysgu.
Goginiom y teisennau cri a’u bwyta.
Roeddynt yn flasus iawn!
|
|
(3)Cynwysion
Dull
-
Hidlo’r blawd a’r
beicarb
-
Ychwanegu’r wy,
llefrith a’r siwgr
-
Cymysgu
-
Tywallt y menyn toddedig
i mewn
-
Cymysgu eto
-
Rhoi’r gymysgedd,
llwyaid ar y tro, mewn padell ffrio boeth (160oC)
-
Coginio nes bod swigod
yn ymddangos yn y gymysgedd
-
Trowch i grasu’r ochr
arall
|
(4)Cyfarwyddiadau
Bydd angen i chwi gael
cwpaned o flawd. Codi ½ llond llwy de o beicarb a’u hidlo nhw i
bowlen. Yna, bydd angen i chwi roi un wy, 2 lond llwy fwrdd o siwgr a
½ cwpaned o lefrith wedi suro, a’i gymysgu nes ei fod yn edrych yn
llyfn. Rhaid i chi doddi’r menyn a’i gymysgu efo’r stwff arall.
Rydych yn cynhesu’r
badell ffrio drydan a rhoi llwyaid ym mhob cornel.
Wedi i chi goginio’r
teisennau cri, maent yn blasu’n grêt. Dwi’n hoffi bwyta’r
gymysgedd cyn iddo gael ei goginio.
|