|

Canllawiau Athrawon Blwyddyn 5 a 6
Er mwyn i blant ddatblygu yn ysgrifennwyr
hyfedr yn y prif ffurfiau annaratif, mae’n rhaid iddynt fod yn ymwybodol
o’r elfennau canlynol o fewn pob testun:
- pwrpas
- fframwaith
- nodweddion ieithyddol
Gwneir hyn yn aml trwy ddefnyddio
engrheifftiau ysgrifenedig da a’u dadansoddi gyda phlant.
Mae casgliadau o’r fath yn brin yn y
Gymraeg, ac felly ceir yma bedair esiampl o’r pum prif ffurf annaratif
sef:
O fewn pob ffurf annaratif mae un uned sy’n
cynnwys 4 darn o waith o amrywiol safon ar yr un pwnc.
Y bwriad yma yw fod plant yn eu
gosod mewn trefn, o’r gorau i’r gwanaf, gan roi rhesymau dros eu dewis.
Gellir datblygu hyn ymhellach trwy gael y plant i greu canllawiau ar gyfer y
ffurf arbennig honno, yn seiliedig ar eu darganfyddiadau.
|