Yn ôl..

                      

SAFONAU AC ANSAWDD MEWN YSGOLION UWCHRADD:

SAESNEG (SPAEM)

SYLWADAU SPAEM

YMATEB YR AWDURDOD

Safonau Cyrhaeddiad

 

Siarad a Gwrando

 

 

Drama

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Darllen

 

Ysgrifennu

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Awgryma tystiolaeth arolygiad, ar y cyfan, nad yw cywirdeb technegol ysgrifennu disgyblion wedi llwyddo i ddilyn cyflymder y gwelliannau mewn ystod ac amrywiaeth eu tasgau ysgrifenedig.

 

 

 

Mae lleiafrif sylweddol o ddisgyblion yn ei chael yn anodd i ysgrifennu’n effeithiol mewn arddulliau mwy ffurfiol.

 

 

Asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU

 

 

 

 

Cynllunio Cwricwlaidd

Mae gwaith a seilir ar destunau drama...yn gyffredinol yn annigonol.

Gwneir defnydd annigonol o wybodaeth asesu ysgol gynradd, gan gynnwys canlyniadau TASAU CA3, er mwyn hysbysu cynlluniau ar ddechrau CA3.

Mae’r Awdurdod yn cytuno’n gyffredinol â’r casgliadau.

Mae’r Awdurdod yn cytuno’n gyffredinol â’r casgliadau, ac yn gweithio gydag ysgolion unigol ar strategaethau dosbarth a fydd yn datblygu ymateb llafar.

Bu darpariaeth systematig ar gyfer drama yn dirywio ers cyflwyniad y Cwricwlwm Cenedlaethol. Ni annogir datblygiad drama o fewn y Cwricwlwm Saesneg oherwydd:

    • lleihad cyffredinol mewn amser Cwricwlwm Saesneg.
    • y modd o asesu Shakespeare hyd at ac yn cynnwys 1997.
    • gwahardd siarad a gwrando o TASAU.
    • pwysau gwaith yn CA4 o ganlyniad i gyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 1996.

Mae’r Awdurdod yn cytuno fod yna angen i ddatblygu drama o fewn a thu allan i’r cwricwlwm Saesneg, ac yn edrych am gydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd ar lefel cenedlaethol, i’w adlewyrchu yn y system asesu yn CA3 a CA4.

Mae’r Awdurdod yn cytuno’n gyffredinol â’r casgliadau.

Mae’r Awdurdod yn cytuno fod adroddiadau arolygiadau’n aml yn dangos mai safon ysgrifennu disgyblion sydd wanaf o’r tri targed cyrhaeddiad; gall hyn, fodd bynnag, adlewyrchu’r ffaith mai allan o’r tri TC ysgrifennu a arolygir fwyaf trwyadl yn aml.

Mae’r Awdurdod yn gweithio gydag ysgolion unigol i wella ansawdd ysgrifennu ymresymiadol, yn enwedig yn CA3.

Mae ysgrifennu ymresymiadol yn aml yn anoddach nag ysgrifennu naratif a chreadigol, ac mae gan ddisgyblion llai o brofiad o’i ddarllen.

Mae’r Awdurdod yn cytuno, ond yn tynnu sylw i’r ffaith fod cywirdeb technegol yn un o’r pethau hawsaf i’w harolygu, ac felly’n debygol o gael ei nodi. Mae’r Awdurdod wedi darparu HMS yn CA2 a CA3 i ymdrin â’r broblem, a bydd yn parhau i wneud hyn fel rhan o’i strategaeth llythrennedd.

Perthyn mwy o her i ysgrifennu ffurfiol nac anffurfiol. Ar yr un pryd bu lleihad yn y gradd o ysgrifennu gweithrediadol estynedig a ofynnir amdano ar draws y cwricwlwm.

Byddem yn disgwyl cynnydd mewn asesiadau CC wrth i athrawon, yn enwedig yn CA2, ddod yn fwy ymwybodol o anghenion yr arholiad ac yn fwy galluog wrth baratoi disgyblion ar ei gyfer. Mae peth amheuaeth yn parhau ynglþn â chysondeb asesu’r TASAU yn CA2 a CA3.

Mae’r Awdurdod yn cytuno’n gyffredinol.

Mae prinder testunau drama o ansawdd llenyddol sylweddol yn CA3 yn parhau.

Mae prinder cysondeb marcio yn CA2 a’r ystod eang o gyraeddiadau a gyflawnir erbyn L4 yn golygu nad yw canlyniadau’r TASAU CA2 o fawr o gymorth wrth hysbysu cynlluniau CA3. Fodd bynnag, mae’n parhau’n wir fod ymwybyddiaeth adrannau Saesneg o ystod gwaith a gyflawnir yn B6 yn aml yn annigonol

SYLWADAU OHMCI YMATEB YR AWDURDOD
Anallu disgyblion i gyfuno gwybodaeth oddi wrth amrywiol ffynonellau ffeithiol

 

 

 

Dadansoddiad arwynebol disgyblion o’r cyfryngau yn eu holl ffurfiau.

 

 

 

 

Y gwendid cyffredinol yng ngallu cynhenid disgyblion i ysgrifennu mewn ffurfiau ymresymiadol o gymharu â’u gallu wrth ysgrifennu creadigol a naratif.

Y cyfran is o addysgu da yn CA3 o gymharu a CA4

 

 

 

 

 

Y sylw annigonol a roddir i ddrama o fewn y cwricwlwm Saesneg yn y mwyafrif o ysgolion.

Y gwendid wrth drosglwyddo gwybodaeth asesu cwricwlar rhwng B6 a B7.

Cyflwynir hwn ar ei orau mewn meysydd eraill o fewn y cwricwlwm, a darparodd yr Awdurdod HMS ar DARTS a dulliau eraill o ddatblygu darllen ar draws y cwricwlwm.

Darparodd yr Awdurdod HMS ar addysg gyfryngau, a bydd yn parhau i wneud hynny. Fodd bynnag, mae’r pwysau ar amser y cwricwlwm Saesneg ar hyn o bryd yn ei gwneud yn anodd i neilltuo amser digonol ar gyfer addysg gyfryngau.

Mae’r Awdurdod yn cydweithio ag ysgolion unigol er mwyn datblygu ysgrifennu ymresymiadol, yn enwedig yn CA3.

Fel y nodir yn yr adroddiad, tuedda’r mater i fod yn berthynol â’r modd y neilltuir dosbarthiadau na fyddant yn cael eu harholi i athrawon llai profiadol neu anarbenigol. Nid yw hyn yn syndod o gwbl o ystyried y pwysau presennol ar dablau cynghrair.

Mae’r Awdurdod yn y gorffennol wedi darparu HMS, ond wedi cael ymateb gwan yn y blynyddoedd diweddar. Os yw drama i gael ei ystyried fel blaenoriaeth o fewn adrannau Saesneg, mae angen i hyn gael ei adlewyrchu yn nhermau polisi cenedlaethol.

Mae’r Awdurdod yn darparu canllawiau i ysgolion ar drosglwyddo gwybodaeth cwricwlar.

 

 

 

 

SYLWADAU SPAEM YMATEB YR AWDURDOD
Dysgu ac Addysgu

Asesu a Chofnodi

 

 

Arweiniad pwnc a rheolaeth adnoddau.

 

 

 

 

Mae’r Awdurdod yn cytuno’n gyffredinol.

Mae’r Awdurdod, mewn cydweithrediad ag athrawon Saesneg uwchradd, wedi cynhyrchu arweiniad manwl ar asesu.

Mae’r Awdurdod yn cytuno’n gyffredinol â’r darlun a roddir yma. Mae’r defnydd o staff anarbenigol yn perthyn i broblem adnoddi cyffredinol mewn ysgolion sy’n derbyn sylw annigonol yn arolwg SPAEM.

Mae staff arbenigol yn debygol o fod yn ymrwymedig i ddosbarthiadau y mae i’w perfformiadau effaith uniongyrchol ar dablau cynghrair.

MATERION ALLWEDDOL

Cyraeddiadau perthnasol bechgyn o gymharu â merched ym mhrofion CC ac yn yr arholiad TGAU.

 

Y cyfran is o waith da yn CA3 o gymharu â CA4

 

 

Anghywirdeb sillafu ac atalnodi disgyblion mewn lleiafrif sylweddol o ddosbarthiadau.

 

Ansawdd anfoddhaol gwrando disgyblion mewn rhai dosbarthiadau; anallu disgyblion i siarad ac ysgrifennu mewn moddau mwy ffurfiol.

Ystod cyfyng disgyblion o ddarllen, yn arbennig ym mlynyddoedd cynnar CA3, a’u dealltwriaeth gwan o destunau o draddodiadau a diwylliannau eraill.

Mae’r Awdurdod wedi darparu HMS ar Fechgyn a Saesneg, a bydd yn parhau i gynnig arweiniad fel rhan o’r strategaeth Llythrennedd.

Mae hyn yn aml mewn perthynas â safonau cyrhaeddiad yn CA2, a fydd yn derbyn sylw pellach fel rhan o strategaeth llythrennedd yr Awdurdod.

Darparodd yr Awdurdod HMS ar sillafu ac atalnodi yn CA2 a CA3 a bydd yn parhau i wneud hynny fel rhan o’i strategaeth llythrennedd.

Mae’r Awdurdod yn darparu HMS ar strwythuro’r cwricwlwm llafar.

 

Darparodd yr Awdurdod HMS ar ddysgu testunau o ddiwylliannau eraill. Mae adnoddi’n broblem. Mae tâl y pen (na adroddwyd arno gan SPAEM) yn aml wedi ei gyfeirio tuag at adnoddi TGAU a Lefel ‘A’. Mae hi’n gynyddol anodd datblygu darllen yn CA3, oherwydd cyfyngiadau ariannol.