Trafod Testun
_______________________________ ![]()
Gweithgareddau ieithyddol yn seiliedig ar ffuglen gyfoes ar
gyfer disgyblion Blwyddyn 7, 8 a 9 ( CA3 ).
Lluniwyd y gweithgareddau hyn gan weithgor bychan o athrawon o ysgolion cynradd Môn,
Gwynedd a Chonwy, dan arweiniad Ymgynghorydd y Gymraeg ac Athrawes Ymgynghorol. Y bwriad
oedd creu deunyddiau heriol a symbylus a fyddai yn gymorth i feithrin medrau llenyddol
plant yn ogystal âu medrau ieithyddol. Gosodwyd hwy yn gyntaf ar Safle Llythrennedd
Cynnal, fel rhan o brosiect Llythrennedd ar y Wê dan arweiniad Mr. Gareth Hughes,
Pennaeth Ysgol y Borth, dan nawdd Grant Cynnal Addysg a Hyfforddiant.
Er mwyn datblygu dealltwriaeth y disgyblion or deunydd llenyddol, ac er mwyn
meithrin eu sgiliau ieithyddol, dylid sicrhau digon o gyfleoedd iddynt ymwneud â
gweithgareddau llafar ac ysgrifenedig. Cynhwyswyd amrywiaeth o weithgareddau yma fydd yn
hybu defnydd or iaith mewn gwahanol sefyllfaoedd, lle gall y disgyblion weithio yn
unigol, mewn parau, grwpiau a dosbarth cyfan. Gellir hefyd ganolbwyntio ar rai elfennau
ieithyddol penodol lle gwelir yr angen, wrth gwrs. Dylid manteisio ar unrhyw gyfleoedd i
ddefnyddio TGCh yn ogystal.
Ystyriwyd y dogfennau canlynol wrth baratoir deunydd, ac awgrymir y dylid gwneud
defnydd cyson ohonynt wrth ymarfer yr iaith :
( Gweler y llyfryn Datblygiad
Iaith - Cynnal )
Cynhwyswyd enghreifftiau o daflenni hunan-asesu y gellir eu defnyddio gan y disgyblion, yn
ogystal â chrynodeb o brif nodweddion rhai or ffurfiau ysgrifenedig y disgwylir
ir disgyblion eu hysgrifennu.
Dymunwn ddiolch yn gyntaf ir athrawon fun paratoir deunyddiau:
Anwen Roberts - Athrawes Ymgynghorol
Gloria Davies - Ymgynghorydd y Gymraeg
Dymunwn gydnabod y caniatad parod a roddwyd i ni gan y gweisg canlynol i ddefnyddio
llyfrau a gyhoeddwyd ganddynt :
Paratowyd y defnyddiau hyn gyda chefnogaeth
Grant Cynnal Addysg Gymraeg, ac Awdurdod Môn, Gwynedd a Chonwy.
Hawlfraint Cwmni Cynnal
Person Cyswllt : Gloria Davies ( Ymgynghorydd y Gymraeg )
|