|
Cyfarwyddiadau
creu llyfrau mawr.
- Argraffwch y daflen yma.
- Gwnewch yn siwr bod eich argraffydd wedi ei gysylltu ac ar waith.
- Cliciwch (chwith) ar y botwm "Print" ar frig y dudalen
yma.
- Cliciwch (chwith) ar y botwn "OK".
Copio’r testun
- Dewiswch y testun i’w ddefnydio.
- Rhowch y llygoden ar ddechrau’r testun. Bydd y saeth yn troi’n
llinell.
- Daliwch y botwm chwith i lawr a llusgwch y llygoden drost y testun.
Bydd y testun yn cael ei dywyllu.
- Gollyngwch y llygoden – bydd y testun yn parhau wedi ei dywyllu.
- Rhowch y saeth ar y testun a clicio’r botwm ar y dde.
- Ar y ddewislen a fydd yn ymddangos dewiswch "Copy".
Agorwch "Microsoft Word"
- Cliciwch (chwith) ar "Start" ar waelod eich sgrin.
- Dewiswch "Programs"
- Cliciwch (chwith ) i agor "Microsoft Word".
Gosod y testun yn Word
- Cliciwch (de) ar ganol y dudalen wag yn Word.
- Ar y ddewislen cliciwch (chwith) ar "Paste".
- Er mwyn newid gosodiad y dudalen – cliciwch (chwith) ar
"File" ar frig y dudalen.
- Cliciwch (chwith) ar "Page Setup".
- Cliciwch (chwith ar "Paper Size".
- Yn y blwch dewis cliciwch (chwith) ar "Landscape".
- Yn awr fe gewch newid maint y testun. (Gallwch ddilyn y cyfarwyddyd
uchod). Gallwch newid maint y testun trwy newid y "Font
Size" yn y blwch ar ben y dudalen.
Gosod y lluniau yn Word
- Ewch i’r dudalen lluniau ar y Safle Llythrennedd.
- Cliciwch (de) ar y llun o’ch dewis.
- Dewiswch "Copy".
- Ewch yn ôl i’r dudalen Word.
- Gosodwch y llygoden (a clicio chwith) i ddangos ble y byddwch am
osod y llun.
- Cliciwch (de) a dewis "Paste" a clicio (chwith).
|