Yn ôl

Druan o Nain!

 

Tudalen 1 a 2

 

"Diwrnod da i 
sychu dillad,"
meddai nain.

 

Tudalen 3 a 4

 

"Digon o wynt. Digon o haul. 
Mi fydd y dillad yn sych erbyn amser cinio."

 

Tudalen 5 a 6


Yn sydyn, cipiodd y gwynt y fasged goch 
a'i chwythu i ganol y blodau.

 

Tudalen 7 a 8

 

Rhedodd nain ar ôl y fasged ond 
methodd â'i dal.

 

Druan o nain!

 

Tudalen 9 a 10

 

Cydiodd y gwynt yn y fasged goch a'i chwythu 
i ganol y llysiau.

 

Tudalen 11 a 12

 

Rhedodd nain ar ôl y fasged ond 
methodd â'i dal.

 

Druan o nain!

 

Tudalen 13 a 14

 

Rowliodd y fasged goch
at y garej.

 

Tudalen 15 a 16

 

Rhedodd nain ar ôl y fasged ond 
methodd â'i dal.

 

Druan o nain!

 

Tudalen 17 a 18

 

Hwyliodd y fasged goch heibio'r bin.

 

Tudalen 19 a 20

 

Rhedodd nain ar ôl y fasged ond 
methodd â'i dal.

 

Druan o nain!

 

Tudalen 21 a 22

 

Cododd y gwynt y fasged goch 
dros y wal a disgynnodd i'r afon.

 

Tudalen 23 a 24

 

"Dyna hen dro," meddai nain.
"Bydd yn rhaid i mi brynu basged goch newydd 'fory."

 

Druan o Nain!