Yn ôl

Mr Mop

 

Tudalen 1 a 2

 

Dyma Mr Mop o 
Ben yr Allt.

Mae gan Mr Mop lawer 
iawn o wallt.

"Helô, Mr Mop, 
sut ydach chi?"

A dyma ateb Mr Mop i mi;

 

Tudalen 3 a 4

 

"Rwy'n crio dagrau hallt,
Rwy'n crio dagrau hallt
Dydw i ddim eisiau cael
torri 'ngwallt."

 

Tudalen 5 a 6

 

Dyma Mr Mop o 
Ben yr Allt.

Mae gan Mr Mop lawer 
iawn o wallt.

"Helô, Mr Mop, 
sut ydach chi?"

A dyma ateb Mr Mop i mi;

 

Tudalen 7 a 8

 

"Rwy'n crio dagrau hallt,
Rwy'n crio dagrau hallt
Mae aderyn wedi gwneud
ei nyth yn fy ngwallt."

 

Tudalen 9 a 10

 

Dyma Mr Mop o 
Ben yr Allt.

Mae gan Mr Mop lawer 
iawn o wallt.

"Helô, Mr Mop, 
sut ydach chi?"

A dyma ateb Mr Mop i mi;

 

Tudalen 11 a 12

 

"Rwy'n crio dagrau hallt,
Rwy'n crio dagrau hallt
Mae wy yn y nyth sydd 
yn fy ngwallt."

 

Tudalen 13 a 14

 

Dyma Mr Mop o 
Ben yr Allt.

Mae gan Mr Mop lawer 
iawn o wallt.

"Helô, Mr Mop, 
sut ydach chi?"

A dyma ateb Mr Mop i mi;

 

Tudalen 15 a 16

 

"Rwy'n crio dagrau hallt,
Rwy'n crio dagrau hallt
Mae cyw yn y nyth 
sydd yn fy ngwallt."
 

 

Tudalen 17 a 18

 

Dyma Mr Mop o 
Ben yr Allt.

Mae gan Mr Mop lawer 
iawn o wallt.

"Helô, Mr Mop, 
sut ydach chi?"

A dyma ateb Mr Mop i mi;

 

Tudalen 19 a 20

 

"Hwrê, hwrê, rwy'n sychu'r
dagrau hallt,
Mae'r cyw wedi hedfan o'r 
nyth yn fy ngwallt."

 

Tudalen 21 a 22

 

Dyma Mr Mop o Ben yr Allt
'Does gan Mr Mop ddim
cymaint o wallt.

 

"Helô, Mr Mop, 
sut ydach chi?"

Adyma ateb Mr Mop i mi;

 

Tudalen 23 a 24

 

"Dim mwy o ddagrau hallt,
Dim mwy o ddagrau hallt,
O'r diwedd mi es i 
gael torri 'ngwallt."