Yn ôl

Robin Goch

 

Tudalen 1 a 2

 

Dyma Robin Goch.

 

Tudalen 3 a 4

 

Mae hi'n bwrw eira ac
mae o eisiau bwyd.

 

Tudalen 5 a 6


Mae o'n chwilio
ym mhob man
am fwyd.

 

Tudalen 7 a 8

 

Mae o'n chwilio ar ben y to.

 

Does dim bwyd ar ben y to.
Druan o Robin!

 

Tudalen 9 a 10

 

Mae o'n chwilio
ym mhob man
am fwyd.

 

Tudalen 11 a 12

 

Mae o'n chwilio
 ar ben y garej.

Does dim bwyd ar ben y garej
Druan o Robin!

 

Tudalen 13 a 14


Mae o'n chwilio
ym mhob man
am fwyd
.

 

Tudalen 15 a 16

 

Mae o'n chwilio ar ben y car. 

Does dim bwyd ar ben y car.
Druan o Robin!

 

Tudalen 17 a 18

 

Mae o'n chwilio
ym mhob man
am fwyd.

 

Tudalen 19 a 20


Mae o'n chwilio ar ben
y goeden.

Does dim bwyd ar ben y 
goeden. Druan o Robin!

 

Tudalen 21 a 22

 

Mae o'n chwilio
ym mhob man
am fwyd.

 

Tudalen 23 a 24

 

Mae o'n chwilio ar silff
y ffenestr.

Does dim bwyd ar silff y ffenestr. Druan o Robin!

 

Tudalen 25 a 26


Mae Robin Goch yn
curo'r ffenestr. "Dw i'n
oer a dw i eisiau bwyd"
meddai Robin

 

Tudalen 27 a 28

 

Mae Bethan yn 
gweld Robin Goch
yn y ffenestr.

 

Tudalen 29 a 30

 

Mae Bethan yn rhoi
bwyd i Robin Goch
ar y bwrdd adar.