Yn ôl

 

 

Glud

Glud stici yn yr ysgol
cyfrifiadur yn chwarae abc
papur arlunio yn fy nghwpwrdd
yn wyn fel eira.

Tân cynnes braf yn y Gaeaf
goleuni yn ein ty hapus ni
gwallt cyrliog Cadi
yn oren fel tân.

Tafod hir i fwyta ac yfed
mochyn tew yn y cae
papur tisiw toilet ysgol
yn binc fel mochyn.

Blw tac ar y wal
plu titw tomos yn hedfan yn yr awyr
dwr yn afon Felinwnda
yn las fel y môr.

Cennin pedr yn tyfu yn yr ardd
haul braf yn yr awyr
gwair sych ar fferm Lowri
yn felyn fel yr haul.

Siwmper ysgol Felinwnda
siwt Siôn Corn
car Miss Tomos
yn goch fel gwaed.

Gan Rhiannon Mai Sailsbury