Yn ôl

Barddoniaeth Lliw

Siwmper Ysgol Felinwnda
siwt Siôn Corn
crib ceiliog ar y fferm
Yn goch fel gwaed.

Blw tac ar y poster
plu titw bach
yr awyr yn yr Haf
Yn las fel y môr.

Cennin pedr
blodyn yr haul
menyn ar y frechdan
Yn felyn fel yr haul.

Y lleuad golau braf
yr eira mawr
y cymylau glawog
Yn wyn fel yr eira.

Candifflos yn syth o'r ffair
tafod  i'w flasu a'i fwyta fo
croen babi bach
Yn binc fel mochyn.

Dail gwyrdd yn yr haf
gwymon gwyrdd yn y dwr
coeden yn y goedwig
Yn wyrdd fel gwair.

Gan Poppy Dawson