| Barddoniaeth
Lliw
Blw tac
yn sdicio ar y wal
awyr braf yn yr Haf
plu titw tomos las yn hedfan yn yr awyr
Yn las fel y môr.
Mefus blasus yr Haf
crib ceiliog ar y fferm
siwt Siôn Corn
Yn goch fel gwaed.
Dail y coed
coeden 'dolig fawr
goleuadau traffig yn dweud, go
Yn wyrdd fel gwair.
Hanner yr awyr
cymylau yn yr awyr
ffens yn y cae
Yn llwyd fel mwg.
Dyn eira wedi toddi
dannedd sgleiniog
gwallt taid Dinas
Yn wyn fel eira.
Tywod ar lan y môr
blodau yr haul
cyw bach yn y nyth
yn felyn fel yr haul.
Gan Lowri Wyn Williams
|