|
"Aur Gwyn" Lesotho (haen 1) Gwlad neu frenhinaeth fechan ydi Lesotho yng nghyfandir Affrica. Mae Gweriniaeth De Affrica yn ei chwmpasu’n gyfangwbl. Dim ond tir sydd o’i chwmpas. Mae hi’n debyg i Gymru mewn sawl ffordd:
Ond mae Lesotho yn wlad dlawd . Mae hanner y boblogaeth yn byw o dan amodau tlawd iawn. O dro i dro bydd y wlad yn dioddef o sychder mawr a bydd y cnydau’n marw. Gan fod Lesotho’n wlad fynyddig mae Project Dŵr yr Ucheldir wedi bod yn un llwyddiannus. Cyn adeiladu’r argae roedd dŵr yr afonydd yn rhedeg o’r tir uchel trwy dde Affrica i Fôr Iwerydd. Mae 18 metr ciwbig o ddŵr yn arllwys i dde Affrica bob un eiliad. Fe adeiladwyd argae Katse i gronni dŵr a’i ddefnyddio ar gyfer y bobl ac i ddyfrhau’r tir. Mae’r project wedi helpu’r wlad a’r bobl mewn sawl ffordd:
Yn sgil hyn adeiladwyd ffyrdd newydd a hefyd roedd gwaith i’r bobl leol. Erbyn hyn mae rhan 1A wedi ei gwblhau. Erbyn y flwyddyn 2020 bydd 4 argae wedi ei adeiladu gyda thwneli yn eu cysylltu. Bryd hynny bydd 28 metr ciwbig o ddŵr yn arllwys i dde Affrica bob un eiliad. Ar hyn o bryd maen nhw’n adeiladu argae Mohale, sef rhan 1B, a bydd hwn yn ei dro yn cyflenwi argae Katse pan fydd y dŵr yn yr argae hwnnw wedi gostwng. Mae’r project hefyd wedi helpu pobl Gweriniaeth De Affrica gan fod dŵr erbyn hyn yn llifo i’w gwlad. Bydd y Weriniaeth yn talu am y dŵr i lywodraeth Lesotho. Ond dydi pawb ddim yn hapus efo’r project. Dyma rai ffeithiau sy’n cael eu defnyddio yn erbyn y project.
Ond i fwyafrif o bobl Lesotho mae dŵr yn drysor prin iawn. Iddyn nhw dyma’r "aur gwyn". Mae pobl Lesotho yn edrych ymlaen i’r dyfodol. Bydd y dŵr o’r mynyddoedd yn eu helpu i gael bywyd gwell a hefyd yn dod a mwy o arian i mewn i’r wlad.
|
||