"Aur Gwyn" Lesotho (haen 2)

Gwlad fechan ydi Lesotho yn Affrica. O’i chwmpas mae De Affrica. Dim ond tir sydd o’i chwmpas. Mae Lesotho’n debyg iawn i Gymru. Mae’n wlad fynyddig. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn ffermio. Maen nhw hefyd yn siarad dwy iaith sef Sesotho a Saesneg.

Gwlad dlawd iawn ydi Lesotho. Yn ystod yr haf bydd sychder mawr yn lladd y planhigion sy’n fwyd i’r bobl. Gan fod Lesotho’n wlad fynyddig maen nhw wedi cychwyn ar broject dŵr sef Project Dŵr yr Ucheldir. Maen nhw wedi codi argae yn Katse i gronni dŵr. Bydd y dŵr yn cael ei ddefnyddio gan y bobl a hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddyfrio’r tir. Mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan hefyd.

Mae’r rhan gyntaf o’r gwaith wedi ei gwblhau. Ar hyn o bryd maen nhw’n adeiladu argae arall ym Mohale. Bydd yr argae hwn yn llenwi argae Katse pan fydd y dŵr yn yr argae hwnnw wedi rhedeg yn isel. Erbyn y flwyddyn 2020 bydd 4 argae arall wedi eu hadeiladu.

Mae pobl De Affrica yn derbyn dŵr o Lesotho. Maen nhw’n talu am y dŵr i lywodraeth Lesotho. Dydi pawb yn Lesotho ddim yn hapus efo’r project dŵr. Mae yna 30,000 o bobl wedi gorfod symud i fyw ac mae llawer o’r tir wedi ei ddinistrio. Ond i’r rhan fwyaf o’r bobl mae dŵr fel aur gwyn, gan y bydd yn helpu’r bobl a hefyd yn dod a mwy o arian i mewn i’r wlad.