|
Gweithgaredd 4 Rhannwch yn grwpiau o dri. Bydd hanner y grwpiau o blaid Project Dwr yr Ucheldir a’r hanner arall yn erbyn. Dylai pob grwp fynd ati i ysgrifennu cyflwyniad dim mwy na 5 munud o hyd, i’w gyflwyno i gynulleidfa dorfol, yn gosod eu dadleuon o blaid/yn erbyn y cynllun.
|
|
|
Dyma rai cymalau i’ch cynorthwyo: Yn y lle cyntaf… Yn ail… Yn ogystal… Dadl arall yw… Er hynny… Er gwaethaf hyn… Yn sicr… Heb amheuaeth… Yn fwy na dim… Yn bennaf… Yn bwysicach… Ar y llaw arall… O ganlyniad… Yn olaf… I derfynu… Dewisiwch un grwp o blaid ac yn erbyn y cynllun i roi eu cyflwyniad i weddill y dosbarth. Cofiwch osod eich dosbarth fel cyfarfod cyhoeddus gyda’r dadleuwyr yn wynebu’r gynulleidfa. Gofynnwch i’ch athro neu’ch athrawes gadeirio y cyfarfod. Wrth gyflwyno eich dadl ceisiwch beidio ei darllen yn slafaidd ond cewch daflu cipolwg arno bob hyn a hyn. Cofiwch rannu’r dadleuon fel bod pob aelod o’ch grwp yn cael cyfle i siarad. Ar ôl clywed y ddwy ochr i’r ddadl gall y gynulleidfa holi cwestiynau i’r panel a mynegi eu barn eu hunain. Ar ddiwedd y cyfarfod gallwch gynnal pleidlais. |