|
Beicio traws Gwlad (haen 1) Roedd Gari wrth ei fodd. Beic traws gwlad! Dyma’r anrheg penblwydd gorau a gafodd o erioed. Roedd o ar dân eisio mynd allan arno fo a phrofi y geriau. A phrofi ei fedruswydd yntau hefyd! Yn enwedig yn erbyn Stifyn. Roedd hwnnw’n dangos ei hun a brolio mai y fo oedd pencampwr beicio traws gwlad y pentre. Gawn ni weld am hynny, meddyliodd Gari. Jest iddo fo ddisgwyl i mi gyrraedd y sgwar ar fy meic. Mi gaiff o weld pwy sy’n frenin y beiciau gwlad! Roedd o wedi hen arfer reidio beic cyffredin. Rwan, fe gâi feic traws gwlad newydd sbon danlli. Yr un diweddaraf efo dau ddeg un o geriau arno. Mi fetia i y bydd o’n sori’n bwt, meddyliodd Gari. Mae fy meic i am gostio ffortiwn! Fe fesurodd Dad ei goesau. ‘Rhaid dy fesur o dy afl i’r ffêr,’ meddai. ‘Dyna’r unig ffordd i gael un o’r maint iawn.’ A bore ei benblwydd, fe gafodd fynd efo Dad i’r siop a dewis y beic. Un coch a melyn ddewisiodd o, a helmed ddu efo top gwyn iddi hefyd. Teimlai’n barod i herio’r byd! ‘Cymer di ofal,’ rhybuddiodd Dad wrth iddo gychwyn am y pentre. ‘Iawn,’ atebodd Gari a’i ben yn y gwynt. Reidiodd fel seren wib am y pentre. Roedd ei griw ffrindiau yno efo’u beiciau. ‘Whiw!’ medden nhw wrth weld y beic newydd. Gwnaeth Stifyn wyneb surbwch. ‘Iawn cael beic newydd sbon,’ meddai. ‘Ond medru ei reidio’n iawn sy’n bwysig. Fel hyn.. yli!’ A gwnaeth ‘wheelie’ llawn ymffrost. ‘Hy! Dydi hynna ddim byd,’ wfftiodd Gari. ‘Mynd ar ras traws gwlad go iawn sy’n anodd, meddai Dad. Mae eisio sgiliau arbennig i wneud hynny.’ ‘Faint o bet?’ ‘Bet be?’ ‘Mai fi fydd y pencampwr.’ ‘Iawn, ta.’ Gwenodd Stifyn. ‘Mae trac wrth droed y mynydd. Awn ni ar hyd-ddo fory.’ ‘Ond mae hi wedi bwrw glaw. Lot! Mi fydd yn fwd i gyd!’ ‘Ofn baeddu dy feic newydd, y lob?’ ‘Na .. ond ...’ Doedd o ddim am ddadlau rhagor. Dim ond babi fuasai’n gwrthod sialens. Aeth adre a’i wynt yn ei ddwrn. ‘Reid traws gwlad fory, Dad. Y trac yna wrth droed y mynydd.’ ‘Dyna fachog,’ chwarddodd Dad. ‘Rwyt ti am brofi dy feic newydd yn syth bin. Ond cofia di be ddeudais i. Mae angen sgiliau pendant i reidio beic traws gwlad. Cymryd gofal, dyna sy’n bwysig.’ Aeth Gari i chwilio am ei lyfr beicio traws gwlad. Roedd digon o gyfarwyddiadau yn hwnnw. Pendronodd uwch ei ben trwy’r gyda’r nos. Fe ddangosai i Stifyn sut oedd reidio’n iawn. O gwnâi! Mae llwybrau traws gwlad yn amrywio o lôn drol i lwybr creigiog, darllenodd. Weithiau bydd yn rhaid cario’r beic a cherdded. Ys gwn i wnaiff Stifyn gario’i feic, dyfalodd Gari. Efallai y bydd o ar ormod o frys eisio ennill y ras. Roedd hi’n glawio’n ysgafn pan ddeffródd bore trannoeth. Gwisgodd y teits beicio pwrpasol efo leinin thermal iddyn nhw gafodd o gan ei fam, a jyrsi thermal, a chlogyn ysgafn blastig ar ben honno hefyd. A menyg! Roedd o’n teimlo fel nionyn! Chwarddodd Stifyn wrth ei weld. ‘Sbiwch arno fo,’ wfftiodd. ‘Mynd i’r Himalayas, Gari?’ Roedd o wedi dðad yn ei ddillad beicio arferol. Dim ond jins a jyrsi a thrainers. ‘Lle mae dy helmed a dy glogyn glaw di?’ holodd Gari. ‘Nambi pambis sydd yn gwisgo’r geriach i gyd,’ meddai Stifyn. ‘Fi .. Tarsan,’ broliodd. ‘Yn tebol waeth be ydi’r tywydd.’ ‘Ond mae pawb arall yn gwisg ..’ cychwynnodd Gari. Yna caeodd ei geg. Stifyn fyddai mewn picil os deuai’n law mawr. Cychwynasant. Roedd y criw i gyd yn dilyn Stifyn a Gari. Padlodd Stifyn fel randros ar y blaen. ‘Hei, malwen!’ galwodd ar Gari. ‘Ofn?’ Nid atebodd Gari. Cau ceg oedd orau, penderfynodd. Dilynodd Stifyn yn ofalus ar hyd y trac. Roedd mwd yn dew arno a phyllau dwr yn cuddio ambell i garreg. Cofiodd Gari gyfarwyddiadu’r llyfr. Gofalwch fod yr olwyn ôl yn reidio’n solet ar yr wyneb bob amser. Roedd Stifyn yn bell ar y blaen erbyn hyn, ac yn troi’i ben tros ei ysgwydd bob yn hyn a hyn a gwawdio Gari am fod mor araf. Yn sydyn dechreuodd bistyllu bwrw. Roedd yn anodd gweld o’u blaen wrth i’r gwynt ei hyrddio i’w hwynebau. Yn fuan roedd y trac yn rhedeg gan ddwr, a’r mwd yn gludio’n lympiau wrth yr olwynion. Dechreuodd dannedd Gari grynu er bod ganddo glogyn glaw a jyrsi thermal. ‘Wyt ti eisio cysgodi?’ gwaeddodd ar Stifyn. ‘Y fi? Nac oes siwr iawn,’ bloeddiodd hwnnw. Yr eiliad nesaf Stifyn wneud olwyn-sbonc tros garreg. Llithrodd ei feic yn y mwd a syrthiodd fel lleden i’r llawr. Eitha gwaith, meddyliodd Gari. Y fo a’i ymffrost. Ond doedd Stifyn ddim yn codi, dim ond gorwedd yno’n llipa heb symud llaw na throed. Neidiodd Gari oddi ar ei feic a’i ollwng yn swp ar y trac. ‘Stifyn! Wyt ti’n iawn?’ holodd yn boenus. Nid oedd ateb. Brysiodd y bechgyn eraill yno a sefyll yn griw distaw i edrych i lawr arno. ‘Mae o wedi taro’i ben,’ meddai Gari. ‘Ylwch, mae yna lwmp!’ ‘Be wnawn ni?’ holasant. Tynnodd Gari ei glogyn glaw a’i thaenu tros gorff anymwybodol Stifyn. Mewn eiliad roedd yntau yn wlyb at ei groen wrth i’r glaw ddymchwel yn gawodydd anferth o’r cymylau duon uwchben. ‘Mi reidia i am gymorth,’ penderfynodd. ‘Mi ffonith Mam am yr ambiwlans. Aroswch chi efo Stifyn.’ Ddywedodd neb run gair, dim ond gwylio Gari yn ymaflyd yn ei feic ac yn ei ffaglu hi’n wyllt ar hyd y trac. Cyrhaeddodd adre yn fwg ac yn dân. Roedd ei rieni yn eistedd yn y lolfa. ‘Beth ar y ddaear?’ ffrwydrodd Dad yn wyllt gacwn. ‘Lle mae dy glogyn di? Rwyt ti’n wlyb domen.’ Ymladdodd Gari am ei anadl. ‘Stifyn! Mae .. o .. wedi .. brifo,’ ebychodd. ‘Taro .. ei ben .. mewn carreg.’ Rhedodd Mam am y ffôn a brysiodd Dad i wisgo’i ddillad glaw ac i estyn tarpolen fechan o’r cwt yn yr ardd ‘Aros i ddisgwyl yr ambiwlans,’ gorchmynnodd. Yr eiliad nesaf, diflannodd i gyfeiriad y trac ar gefn beic Gari. ‘Rho gôt arall,’ gorchmynnodd ei fam. ‘Does dim synnwyr mewn reidio beic traws gwlad yn y tywydd yma,’ ychwanegodd yn ddig. Cysgododd Gari o dan goeden i ddisgwyl yr ambiwlans. Clywodd y seiren o bell wrth iddi sgrealu rownd y corneli ac am y pentref. Neidiodd dau ddyn allan yn frysiog wedi iddi gyrraedd. Fuo nhw fawr o dro cyn tynnu strejiar o’r cefn a bag cymorth cyntaf hefyd. ‘Ar dy ôl di,’ meddai’r ddau. Rhedodd Gari ar hyd y trac. Fe glywai y ddau yn bustachu dðad o’r tu ôl iddo. Roedd y strejiar yn drwm a’r mwd yn achosi iddyn nhw sglefrio a baglu wrth geisio ei ddilyn. O’r diwedd, fe gyrhaeddon nhw at y lle gorweddai Stifyn. Roedd ei dad wedi cyrraedd ers meitin ac wedi rhoi y darpolen i gysgodi rhagor ar Stifyn. ‘Anaf i’w ben mae’n amlwg,’ sylwodd y dyn ambiwlans gan redeg ei fysedd yn ysgafn tros ei gorun. ‘Rhaid rhoi coler am ei wddf hefyd rhag ofn anaf pellach.’ Dechreuodd Stifyn ddadebru. ‘Be sy?’ holodd yn wantan gan geisio codi. ‘Aros lle’r wyt ti,’ gorchmynnodd y dyn ambiwlans. Codwyd Stifyn ar y strejiar a helpodd tad Gari y dynion i’w gludo i lawr at yr ambiwlans. Criw distaw iawn o fechgyn a ddilynodd. Wnâi run ohonyn nhw fentro reidio heb helmed fel y gwnaeth Stifyn. Byth! Wrth lwc, fe ddaeth Stifyn ato’i hun yn yr ysbyty. ‘Mi gollodd Dad ei limpyn,’ meddai pan aeth y bechgyn i’w weld. ‘Cha i ddim mynd ar y trac am fisoedd!’ Doedd Gari ddim am ddweud ‘eitha gwaith’. Ond yn ddistaw bach, dyna’n union beth oedd o’n ei feddwl!
|
||