Beicio traws gwlad (haen 2)

Roedd Gari am gael beic traws gwlad yn anrheg penblwydd. Roedd o ar dân eisio mynd allan arno a phrofi y geriau. A phrofi pa mor fedrus oedd o yn erbyn Stifyn. Roedd hwnnw’n brolio mai y fo oedd pancampwr y pentre!

Roedd Gari wedi hen arfer reidio beic cyffredin. Ond rwan, mi fyddai’n berchennog beic traws gwlad newydd sbon efo lot o geriau arno.

Mi fydd Stifyn yn sori’n bwt, meddyliodd.

‘Rhaid dy fesur o dy afl i’r ffêr i gael beic o’r maint iawn,’ meddai Dad cyn mynd i’r siop.

Felly, bore ei benblwydd, fe ddewisiodd feic coch a melyn a helmed ddu efo top gwyn iddi. Teimlai’n barod i herio’r byd!

‘Cymer di ofal,’ rhybuddiodd Dad wrth iddo gychwyn am y pentre.

‘Iawn,’ atebodd Gari a’i ben yn y gwynt.

Reidiodd fel seren wib. Roedd ei griw ffrindiau yno efo’u beiciau.

‘Whiw!’ medden nhw wrth weld y beic newydd.

Gwnaeth Stifyn wyneb surbwch.

‘Iawn cael beic newydd sbon,’ ymffrostiodd. ‘Ond medru ei reidio’n iawn sy’n bwysig. Fel hyn .. yli!’

A gwnaeth ‘wheelie’ llawn ymffrost.

‘Hy! Dydi hynna ddim byd,’ wfftiodd Gari. ‘Ras traws gwlad go iawn sy’n anodd, meddai Dad. Mae eisio sgiliau arbennig i wneud hynny.’

‘Faint o bet mai fi fydd y pencampwr?’ holodd Stifyn.

‘Iawn, ta.’

Gwenodd Stifyn.

‘Awn ni ar hyd y trac wrth droed y mynydd fory.’

‘Ond mae hi wedi bwrw glaw. Mi fydd yn fwd i gyd.’

‘Ofn baeddu dy feic newydd, y lob?’

‘Na .. ond ..’

Doedd Gari ddim am wrthod sialens. Aeth adre a’i wynt yn ei ddwrn.

‘Ras traws gwlad fory, Dad. Y trac wrth droed y mynydd.’

‘Dyna fachog!’ chwarddodd Dad. ‘Mi fyddi’n profi dy feic newydd yn syth bin. Ond cymer ofal.’

Chwiliodd Gari am ei lyfr beicio. Bu’n ei ddarllen trwy’r gyda’r nos. Roedd o am ddangos i Stifyn sut oedd reidio go iawn!

Mae llwybrau traws gwlad yn amrywio o lôn drol i lwybr creigiog, darllenodd. Weithiau bydd yn rhaid cerdded a chario’r beic.

Ys gwn i wnaiff Stifyn wneud, dyfalodd Gari. Efallai y bydd o ar ormod o frys eisio ennill y ras.

Roedd yn glawio’n ysgafn pan ddeffródd. Gwisgodd Gari y teits beicio a’r jyrsi thermal gafodd o gan ei fam, a chlogyn ysgafn blastig hefyd. A menyg! Roedd o fel nionyn!

Chwarddodd Stifyn wrth ei weld.

‘Sbiwch arno fo,’ wfftiodd. ‘Mynd i’r Himalayas, Gari?’

Roedd o’n gwisgo ei ddillad beicio arferol. Jins a jyrsi a thrainers.

‘Lle mae dy helmed a dy glogyn glaw di?’ holodd Gari.

‘Dillad nambi pambis ydi’r rheiny,’ meddai Stifyn. ‘Fi .. Tarsan,’ broliodd. ‘Dim ots be ydi’r tywydd.’

‘Ond mae pawb arall yn gwisg ..’ cychwynnodd Gari.

Yna caeodd ei geg. Stifyn fyddai mewn picil os deuai’n law mawr.

Cychwynasant. Padlodd Stifyn fel randros ar y blaen.

‘Hei, malwen!’ galwodd ar Gari. ‘Ofn?’

Dilynodd Gari ef yn ofalus. Roedd Stifyn ymhell ar y blaen erbyn hyn, ac yn edrych tros ei ysgwydd i’w wawdio am fod mor araf.

Dechreuodd bistyllu bwrw. Yn fuan roedd y trac yn rhedeg gan ddwr, a’r mwd yn gludio’n lympiau wrth yr olwynion. Dechreuodd dannedd Gari grynu er bod ganddo ddillad pwrpasol.

‘Wyt ti eisio cysgodi?’ gwaeddodd.

‘Y fi? Nac oes siwr iawn,’ bloeddiodd Stifyn.

Yr eiliad nesaf ceisiodd wneud olwyn-sbonc tros garreg. Llithrodd ei feic yn y mwd a syrthiodd fel lleden i’r llawr.

Gorweddodd yno heb symud llaw na throed. Neidiodd Gari oddi ar ei feic a’i ollwng yn swp ar y trac.

‘Stifyn! Wyt ti’n iawn?’ holodd yn boenus.

Brysiodd y bechgyn eraill yno.

‘Mae o wedi taro’i ben,’ meddai Gari. ‘Ylwch y lwmp ‘na!’

‘Be wnawn ni?’ holasant.

Tynnodd Gari ei glogyn a’i thaenu tros gorff anymwybodol Stifyn. Mewn eiliad roedd yntau’n wlyb at ei groen.

‘Mi reidio i am gymorth,’ penderfynodd.

Ddywedodd neb run gair, dim ond gwylio Gari yn ei ffaglu hi’n wyllt ar hyd y trac.

Cyrhaeddodd adre yn fwg ac yn dân.

‘Beth ar y ddaear?’ ffrwydrodd Dad yn wyllt gacwn. ‘Lle mae dy glogyn di? Rwyt ti’n wlyb domen.’

Ymladdodd Gari am ei anadl.

‘Stifyn! Wedi .. brifo,’ ebychodd. ‘Taro .. ei ben .. ar garreg.’

Rhedodd Mam i ffonio’r ambiwlans. Brysiodd Dad i nôl ei ddillad glaw, ac estynnodd darpolen fechan o’r cwt yn yr ardd.

‘Aros di i ddisgwyl yr ambiwlans,’ gorchmynnodd.

Yna diflannodd ar gefn beic Gari.

‘Rho gôt arall,’ gorchmynnodd Mam. ‘Does dim synnwyr reidio beic yn y tywydd yma.’

Cysgododd Gari o dan coeden i ddisgwyl yr ambiwlans. Clywodd ei seiren yn swnio o bell cyn iddi gyrraedd.

Neidiodd dau ddyn ohoni a thynnu strejiar a bag cymorth cyntaf o’r cefn..

‘Ar dy ôl di,’ meddai’r ddau.

Rhedodd Gari ar hyd y trac. Fe glywai y ddau yn bustachu dwad o’r tu ôl iddo. Roedd y strejiar yn drwm a’r mwd yn achosi iddyn nhw sglefrio a baglu wrth ei ddilyn.

O’r diwedd, fe gyrhaeddodd nhw at Stifyn. Roedd Dad yno ers meitin ac wedi rhoi y darpolen i gysgodi rhagor arno.

‘Anaf i’r pen mae’n amlwg,’ sylwodd un dyn ambiwlans gan deimlo ei gorun. ‘Rhaid rhoi coler am ei wddf hefyd.’

Dechreuodd Stifyn ddod ato’i hun.

‘Be sy?’ holodd yn wantan gan geisio codi.

‘Aros lle’r wyt ti,’ gorchmynnodd y dyn ambiwlans.

Codwyd Stifyn ar strejiar a’i gludo i lawr y trac.

Criw distaw o fechgyn a gerddodd y tu ôl. Roedden nhw i gyd yn addo na fuasen nhw byth yn dilyn esiampl Stifyn. Reidio heb helmed? Byth!

Wrth lwc roedd Stifyn yn teimlo’n well wedi cyrraedd yr ysbyty.

‘Dad wedi colli ei limpin,’ meddai pan aeth y bechgyn i’w weld. ‘Cha i ddim mynd ar y trac am fisoedd!’

Biti, ond eitha gwaith hefyd, meddyliodd Gari.