|
Ceisio herwgipio awyren (haen 1) Dylyfodd Sioned ei gên. Roedd hi a’i rhieni a Rhodri, ei brawd bach, yn disgwyl yn y lolfa ymadael ym maes awyr Palma ers meitin, a doedden nhw byth wedi cael mynd ar yr awyren. Ac roedd hi wedi diflasu’n lân ar yr holl ddisgwyl. ‘Ydi hi bron yn amser cychwyn, Mam?’ holodd yn obeithiol wedi i’r trolïau cludo cesus ddiflannu ar eu taith i grombil yr awyren. ‘Bron iawn,’ atebodd Mam yn flinedig. Diwrnod diwethaf y gwyliau oedd hi, a bu’n rhaid iddyn nhw bacio’u pethau a gadael y gwesty ers ben bore. Rwan, roedden nhw’n gorfod disgwyl am ddwy awr yn y maes awyr. Am smonach, meddyliodd Sioned. Codi mor fore, a chicio sodlau yn fan’ma wedyn! Cerddodd at y ffenestri mawr a estynnai ar hyd un wal i’r lolfa. Craffodd i lawr ar y brif fynedfa. Gwelodd gar mawr efo ffenestri tywyll yn aros o flaen y drws. Neidiodd dynion ohono a syllu’n ofalus o gwmpas, cyn agor y drws ôl a gadael i ddyn gamu allan. Brasgamodd yn frysiog o’i golwg. Rhywun pwysig ofnadwy yn trafaelio ar ei ben ei hun, meddyliodd Sioned. Gwenodd. Ar ei ben ei hun felly .. dyn unig, penderfynodd. Efallai y bydd o ar ein hawyren ni. Aeth yn ôl i eistedd gyda’i rhieni. ‘Lle mae Rhodri?’ holodd Dad yn sydyn. ‘Roedd o yma eiliad yn ôl.’ Cododd a syllu’n wyllt o gwmpas. ‘Lle gebyst?’ holodd yn flin. Jest fel Rhodri, ochneidiodd Sioned yn ddiflas. Roedd o wrth ei fodd yn chwarae triciau a diflannu mewn chwinciad chwannen, a gadael pawb yn wyllt gacwn wrth chwilio amdano. ‘Rhodri!’ galwodd Dad. Craffodd Mam a Dad a hithau i bob cyfeiriad. Ond roedd bagiau a phobl yn blith-draphlith ym mhob man. ‘Aros di efo’r bagiau,’ gorchmynnodd Mam mewn llais wedi cael llond bol. ‘Welsoch chi fachgen bach gwallt melyn?’ holodd Dad y stiward. Ysgydwodd hwnnw ei ben. Ond cytunodd i chwilio efo nhw. Ymddangosodd neges ‘ Awyren ET961 Manceinion ewch arni nawr’ ar yr hysbysfwrdd. Brawychodd Sioned. Beth tasai’r awyren yn mynd hebddyn nhw? Neidiodd ar ei thraed yn gynhyrfus. Yna gwelodd Rhodri. Roedd o wedi tyrchio o dan bentwr o fagiau yn y gornel ac yn sbecian allan yn llawn hwyl. ‘Yli, cena bach,’ meddai Sioned. Camodd ymlaen yn fyrbwyll. Yna cofiodd am orchymyn Mam. Roedd yn rhaid iddi aros efo’r bagiau. Safodd yno ar gyfyng-gyngor. Daeth neges terfynol tros y tanoi. ‘Teithwyr ar awyren ET 961 Manceinion ar unwaith. Teithwyr ar awyren ET961 Majorca ar unwaith.’ Llyncodd Sioned boer nerfus. Yna ochneidiodd yn ddiolchgar wrth i Mam a Dad ddychwelyd efo golwg boenus iawn ar eu hwynebau. ‘Wn i ddim lle ...’ meddai Mam ar binnau. ‘Dacw fo Rhodri!’ pwyntiodd Sioned. ‘Yn y pwdin teim,’ meddai Dad yn chwyrn gan gamu mlaen a thynnu Rhodri o’r pentwr. Ymaflodd Mam a Dad yn y bagiau a brysio efo Rhodri a hithau ar hyd y tiwb bordio. Dyna ddiolchgar oedden nhw o ddarganfod rhifau eu seddau’n syth bin, a chael ymlacio o’r diwedd. ‘Whiw!’ meddai Mam a Dad gan wenu ar ei gilydd. Ond doedd Rhodri’n malio dim. Fe gafodd o hwyl ardderchog wrth chwarae cuddio a gwylio pawb yn colli limpin wrth chwilio amdano. Edrychodd Sioned o’i chwmpas. Roedd yr awyren yn llawn o bobl a phlant yn dychwelyd o’u gwyliau. Ond eisteddai un dyn heb gymryd fawr o sylw o neb. Y dyn hwnnw welodd hi’n cyrraedd gynnau! Y dyn unig, meddai Sioned wrthi’i hun. Daeth llais trwy’r seinydd. ‘Eich peilot yma. Rydyn ni’n barod i gychwyn. Bydd y siwrnai yn cymryd dwy awr a hanner.’ Eglurodd y weinyddes am y masgiau ocsigen, y bocs cymorth cyntaf a’r pwysigrwydd o ddefnyddio y strapiau diogelwch wrth godi a glanio. Cynyddodd rhuad yr injan wrth i’r awyren gyflymu ar hyd y rhedegfa. Yna gadawsant y tir ac anelu fry fry i’r awyr. Datododd pawb eu strapiau diogelwch yn ddiolchgar. Aeth chwarter awr heibio. Pendwmpiodd Sioned. Ond roedd Rhodri mor aflonydd â sioncyn gwair. ‘Eistedd yn llonydd wir,’ grwgnachodd Mam. Yna’n sydyn neidiodd dyn ar ei draed gan chwifio dryll. Rhuthrodd i sefyll o flaen y dyn unig a’i fygwth. ‘Herwgipiad ydi hwn,’ gwaeddodd yn wyllt. ‘Gorchymyn y peilot i hedfan i Iraq,’ sgyrnygodd ar y weinyddes. ‘Neu mi fydda i’n saethu’r bradychwr hwn. A rhywun arall wnaiff fentro ymyrryd hefyd. CYCHWYN HI!’ bloeddiodd. ‘O ..o .. ôl reit,’ meddai’r weinyddes yn grynedig. Aeth pobman yn ddistaw. Doedd neb am symud llaw na throed. Y dyn unig druan, meddyliodd Sioned yn ofnus. ‘Neb i symud,’ gwaeddodd yr herwgipiwr eto. Roedd o’n ceisio cadw golwg ar y teithwyr ac edrych i gyfeiriad caban y peilot run pryd. Crynai ei fysedd ar fôn y dryll, a chodai ei lais yn uwch ac yn uwch. Roedd pawb wedi dychryn gormod i wneud dim ond syllu’n geg agored. ‘HEDFAN I IRAQ,’ sgrechiodd ar dop ei lais unwaith eto. Ymddangosodd y peilot yn nrws y caban. Crynodd y dryll i’w gyfeiriad yna’n ôl at y dyn unig a’r teithwyr drachefn. ‘Does dim digon o danwydd i hedfan mor bell,’ meddai’r peilot. Dechreuodd yr herwgipiwr regi a gwaeddi. ‘Ar unwaith! AR UNWAITH!’ gwaeddodd. ‘Neu mi fydda i’n saethu.’ Ceisiodd y peilot ymddangos yn rhesymol. ‘Does dim digon o danwydd,’ meddai eto. ‘Rhaid mynd! Rhaid mynd!’ bloeddiodd yr herwgipiwr. ‘Bradychwr Iraq,’ poerodd i gyfeiriad y dyn unig. Teimlai Sioned ei stumog yn corddi. Beth oedd am ddigwydd iddyn nhw ac i’r dyn unig? Roedd ei wyneb yn llawn ofn. ‘Dyn efo dryll,’ chwarddodd Rhodri’n sydyn. Crafangiodd tros lin Mam. ‘Rhodri!’ ebychodd Mam gan geisio gafael ynddo. Ond llithrodd Rhodri o’i gafael a cherdded i gyfeiriad yr herwgipiwr. ‘Rhodri! NA!’ gwaeddodd Dad gan godi ar ei draed.. ‘Llonydd!’ bloeddiodd yr herwgipiwr gan chwifio’r dryll i’w cyfeiriad. Dyma gyfle y dyn unig. Neidiodd o’i sedd gan chwifio’i fag busnes a tharo’r llaw a ddaliai’r dryll. ‘OWW!’ llwodd yr herwgipiwr. Bu’n rhaid iddo ollwng y dryll wrth i’r dyn unig a’r peilot daflu eu hunain arno a’i fwrw i’r llawr. Aeth yn ymrafael gwyllt. Rhuthrodd Dad i afael yn Rhodri a’i dynnu i ddiogelwch. Yna taflodd rhai o’r teithwyr eu hunain ymlaen. Yn fuan roedd yr herwgipiwr yn gorffyn llonydd o dan bentwr o ddynion a rheiny i gyd yn gwasgu a dobio a gwaeddi ar dop eu lleisiau. O’r diwedd llwyddasant i’w ddal yn llonydd. Tynnodd y gweinyddesau eu teits i’w glymu’n sownd, a chadwodd y stiward y dryll yn ddiogel. Brysiodd y peilot i rybuddio’r awdurdodau ym Manceinion. Teimlai pawb yn hynod o ddiolchgar wedi glanio’n ddiogel. Disgwyliai plismyn yno. A phrin yr ataliwyd yr awyren cyn iddyn nhw frysio arni i arestio’r herwgipiwr, a hebrwng y dyn unig oddi arni o flaen pawb arall hefyd. Ys gwn i pam oedd o eisio mynd a’r dyn unig i Iraq, dyfalodd Sioned. Ond dyna braf oedd cael mynd adre’n ddiogel. Tybed wnâi ei ffrindiau ei choelio pan ai yn ôl i’r ysgol? Tybed?
|
||