|
Ceisio herwgipio awyren (haen 2) Dylyfodd Sioned ei gên. Roedd hi a’i rhieni a Rhodri, ei brawd bach, yn disgwyl mynd ar yr awyren ers meitin ac roedd hi wedi diflasu’n lân. ‘Ydi hi bron yn amser cychwyn, Mam?’ gofynnodd wrth weld y trolïau cesus yn diflannu am grombil yr awyren. ‘Bron iawn,’ atebodd Mam yn flinedig. Diwrnod diwethaf y gwyliau oedd hi, a bu’n rhaid iddyn nhw adael y gwesty ben bore. A rwan, roedd yn rhaid iddyn nhw ddisgwyl am ddwy awr yn y lolfa ymadael ym maes awyr Palma. Smonach, meddyliodd Sioned. Codi’n fore a chicio sodlau yma wedyn. Cerddodd at y ffenestri mawr a estynnai ar hyd y wal a chraffodd i lawr at y brif fynedfa. Arosodd car mawr wrth y drws. Neidiodd dynion allan ohono a syllu’n ofalus o gwmpas cyn agor y drws ôl i ddyn gamu allan. Brasgamodd am y fynedfa. Rhywun pwysig, meddyliodd Sioned. Rhywun ar ei ben ei hun .. dyn unig, penderfynodd. Aeth i eistedd at ei rhieni unwaith eto. ‘Lle mae Rhodri?’ holodd Dad yn sydyn. Cododd a syllu’n wyllt o gwmpas. Jest fel Rhodri, ochneidiodd Sioned yn ddiflas. Diflannu mewn chwinciad chwannen a gwneud pawb yn wyllt gacwn. ‘Rhodri!’ galwodd Dad. Doedd dim golwg ohono. ‘Aros di efo’r bagiau,’ gorchmynnodd Mam mewn llais wedi cael llond bol. ‘Welsoch chi fachgen bach gwallt melyn?’ holodd Dad y stiward. Dechreuodd hwnnw chwilio amdano hefyd. Ymddangosodd neges ‘Awyren ET961 Manceinion . ewch arni nawr’ ar yr hysbysfwrdd. Brawychodd Sioned a neidio ar ei thraed yn gynhyrfus. Yna gwelodd Rhodri yn cuddio o dan bentwr o fagiau yn y gornel. ‘Y cena bach,’ meddai. Camodd ymlaen yn fyrbwyll. Ond roedd yn rhaid iddi aros efo’r bagiau, doedd? Safodd yno ar gyfyng-gyngor. Daeth neges terfynol tros y tanoi. ‘Teithwyr ar awyren ET961 Manceinion ar unwaith.’ Ochneidiodd Sioned yn ddiolchgar wrth i Mam a Dad ddychwelyd. ‘Wn i ddim lle ..’ poenodd Mam ar binnau. ‘Dacw fo Rhodri,’ pwyntiodd Sioned. ‘Yn y pwdin teim,’ meddai Dad yn chwyrn gan afael ynddo. Ymaflodd Mam a Dad yn y bagiau a brysio ar hyd y tiwb bordio. Eisteddasant yn y seddau’n ddiolchgar. ‘Whiw!’ meddent gan wenu ar ei gilydd. Ond doedd Rhodri’n malio dim. Fe gafodd hwyl ardderchog wrth guddio a gwybod bod pawb yn colli limpin wrth chwilio amdano. Edrychodd Sioned o’i chwmpas. Roedd y teithwyr yn siarad a chwerthin wrth ddychwelyd o’u gwyliau. Ond eisteddai un dyn yn y pen blaen heb gymryd sylw o neb. Y dyn unig, meddai Sioned wrthi’i hun. Daeth llais trwy’r seinydd. ‘Eich peilot yma. Rydyn ni’n barod i gychwyn. Bydd y siwrnai yn cymryd dwy awr a hanner.' Eglurodd y weinyddes am y masgiau ocsigen, y bocs cymorth cyntaf a pha mor bwysig oedd gwisgo’r strapiau diogelwch wrth godi a glanio. Cynyddodd rhuad yr injan, ac yn fuan roedden nhw i fyny yn yr awyr. Aeth chwarter awr heibio. Dechreuodd Sioned bendwmpian. Ond roedd Rhodri mor aflonydd â sioncyn gwair. ‘Eistedd yn llonydd wir,’ grwgnachodd Mam. Yna neidiodd dyn ar ei draed gan chwifio dryll. Rhuthrodd i sefyll o flaen y dyn unig. ‘Herwgipiad ydi hwn,’ gwaeddodd yn wyllt. ‘Gorchymyn y peilot i hedfan i Iraq,’ sgyrnygodd ar y weinyddes. ‘Neu mi fydda i’n saethu’r bradychwr yma. A rhywun arall wnaiff fentro ymyrryd hefyd. CYCHWYN HI!’ bloeddiodd. ‘O .. o .. ôl reit,’ meddai’r weinyddes yn grynedig. Aeth pobman yn ddistaw. Doedd neb am symud. Y dyn unig druan, meddyliodd Sioned yn ofnus. Roedd yr herwgipiwr yn ceisio edrych ar y teithwyr ac i gyfeiriad caban y peilot run pryd. Crynai ei fysedd ar fôn y dryll a chodai ei lais yn uwch ac yn uwch. ‘HEDFAN I IRAQ,’ sgrechiodd ar dop ei lais. ‘Does dim digon o danwydd i hedfan mor bell,’ meddai’r peilot. ‘Ar unwaith! AR UNWAITH!’ sgrechiodd yr herwgipiwr heb wrando dim. ‘Fedra i ddim,’ meddai’r peilot. ‘Rhaid gwneud,’ meddai’r herwgipiwr. ‘Bradychwr Iraq,’ poerodd i gyfeiriad y dyn unig. Teimlai Sioned ei stumog yn corddi. Roedd wyneb y dyn unig yn llawn ofn. ‘Dyn efo dryll,’ chwarddodd Rhodri yn sydyn. Crafangiodd tros lin Mam. Ceisiodd hithau afael ynddo, ond llithrodd o’i gafael. ‘NA, Rhodri,’ gwaeddodd Dad gan godi ar ei draed. ‘LLONYDD!’ bloeddiodd yr herwgipiwr a chwifio’r dryll tuag ato. Dyna gyfle’r dyn unig. Neidiodd o’i sedd gan daro’i fag busnes yn drwm ar y llaw a ddaliai’r dryll. ‘OWWW!’ llwodd yr herwgipiwr. Bu’n rhaid iddo ollwng y dryll wrth i’r dyn unig a’r peilot daflu eu hunain arno a’i fwrw i’r llawr. Rhuthrodd Dad ymlaen i afael yn Rhodri a’i dynnu i ddiogelwch. Neidiodd rhai o’r teithwyr ar yr herwgipiwr hefyd. Yn fuan roedd o’n gorffyn llonydd a phentwr o ddynion yn gorwedd arno. Tynnodd y gweinyddesau eu teits i’w glymu’n sownd, a chadwodd y stiward y dryll yn ddiogel. Brysiodd y peilot i rybuddio’r awdurdodau ym Manceinion. Ochneidiodd pawb yn ddiolchgar wedi glanio. Brysiodd criw o blismyn ar yr awyren a hebrwg yr herwgipiwr a’r dyn unig ymaith. Ys gwn i pam oedd yr herwgipiwr eisio mynd â’r dyn unig i Iraq, dyfalodd Sioned. Ond dyna braf oedd cael mynd adre’n ddiogel. Tybed wnâi ei ffrindiau ei choelio pan ai yn ôl i’r ysgol? Tybed?
|
||