|
Ecsodus (haen 1) Gorweddai Dafydd ar ei wely bach yng nghornel yr ystafell. Doedd o ddim am gysgu. Roedd yn braf gorwedd yno’n swrth efo stumog lawn ac arogl olaf y cig rhôst yn cosi ei ffroenau. Dyna wledd fu hi. Y wledd orau a gafodd erioed! Ailflasodd yr oen rhôst, y llysiau chwerw a’r bara croyw yn ei feddwl. Chawson nhw ddim y ffasiwn wledd ers cantoedd. Ond roedd ei feddwl yn llawn dryswch. Pam y cawson nhw wledd? Caethweision tlawd oedden nhw, a’r Eifftiaid yn eu gorfodi i weithio o fore tan nos. A gwaeth na hynny, roedden nhw’n curo a chwipio rhywun oedd yn anufuddhau. ‘Jest iddyn nhw drio efo mi,’ addawodd Dafydd. ‘Dydw i ddim am gael fy sathru dan draed ganddyn nhw.’ Doedd pethau ddim yn deg! Pam ddylai yr Eifftiaid gael byw mewn plasau crand, a’r Israeliaid yn gorfod byw mewn tai tlawd? Y nhw oedd yn gwneud y gwaith i gyd. A byth bron yn cael digon i’w fwyta. Ac er bod Moses wedi gofyn a gofyn i Pharo, fe wrthododd yn bendant adael iddyn nhw fudo o’r wlad. Ond heno, fe gawson nhw wledd ardderchog. Ac nid eu teulu nhw yn unig, ond pawb o’u cymdogion hefyd. Gorchymyn Duw oedd y wledd meddai’i fam. A gorchymyn Duw oedd iddyn nhw roi gwaed yr oen ar byst y drws. ‘Ond pam, Mam?’ holodd yntau’n ddryslyd. ‘Bydd Duw yn anfon y degfed pla,’ oedd yr ateb. Pefriodd llygaid Dafydd. ‘Wnaiff Moses droi’i wialen yn sarff eto, Mam? Fydd yna ddwr coch yn yr afon Nil, a locustiaid a llyffantod a llau yn blino’r Eifftiaid? Fydd yna glefyd mawr ar eu hanifeiliaid, a storm yn difetha popeth fel o’r blaen?’ ‘Mi fydd y pla yma’n waeth o lawer,’ meddai’i fam. ‘Ond rydyn ni’n ddiogel. Mae gwaed yr oen ar byst y drws.’ Rhwbiodd ddeigryn o’i llygaid. ‘Druan o’r rhieni,’ meddai’n drist. Eitha gwaith, meddyliodd Dafydd. Eifftiaid ydyn nhw, te? Ond beth fyddai’r degfed pla? Am hanner nos, daeth swn beichio crio o gyfeiriad tai yr Eifftiaid. Lledaenodd yr wylofain dros y ddinas. Lledaenodd nes llenwi’r holl fyd. ‘Fy mab! Fy mab! Mae o wedi marw!’ ‘Aiff Pharo ddim yn ôl ar ei air y tro yma,’ meddai ei dad. ‘Mae meibion hynaf yr Eifftiaid i gyd yn farw. Dyna gosb Duw.’ Trodd at ei deulu. ‘Rhaid paratoi. Bydd Pharo yn ein gollwng yn rhydd rwan. Fydd ganddo ddim dewis.’ Ac felly y bu. Fe wylltiodd Pharo yn gacwn. Ond roedd o’n drist hefyd am fod ei fab yntau wedi marw. Cyn iddi oleuo bron, daeth ei lais croch o gyfeiriad y palas. ‘Ewch! Y chi a’ch teuluoedd a’ch anifeiliaid. Ewch o fy ngolwg i! Ewch!’ Hwre! Roedd Dafydd yn wên o glust i glust. Ond roedd cant a mil o bethau i’w gwneud cyn cychwyn. Rhedodd i helpu’i dad efo’r defaid a’r geifr. Roedden nhw’n gadael yr Aifft! Am byth! Dyna antur! Ond dechreuodd boeni wrth weld yr anialwch yn ymestyn mor undonog a thywodlyd o’i flaen. Sut oedden nhw am ei groesi? Beth petaen nhw’n marw o newyn ac o eisio diod? Trodd i ofyn i’w dad. Ond roedd llygaid ei dad ar rywbeth ymhell ar y blaen. Trodd Dafydd i edrych hefyd. Disgynnodd ei ên. Roedd colofn o niwl yn symud i ddangos y ffordd! ‘Moses ddefnyddiodd ei wialen i godi’r niwl,yntê?’ meddai Dafydd. ‘Na,’ meddai ei dad. ‘Duw sy’n arwain y ffordd.’ Hy! Am smonach! meddai Dafydd wrtho’i hun. Dydi colofn niwl yn dda i ddim yn y nos. Ond pan ddaeth yn nos bu’n rhaid iddo lyncu ei eiriau. Trodd y golofn niwl yn golofn dân, a honno’n llosgi’n llachar i ddangos y ffordd iddyn nhw. Erbyn bore trannoeth, buasai’n dda ganddo gael seibiant bach. Roedd bodiau’i draed yn brifo’n llosg a’i gefn fel pren anystwyth. Dylyfodd ên yn flinedig. ‘Gawn ni aros am ychydig, Dad?’ erfyniodd. ‘Mae nhraed i’n brifo.’ ‘Na,’ meddai ei dad. ‘Rhaid inni gyrraedd y Môr Coch gyntaf.’ ‘Y Môr Coch!’ meddai Dafydd yn syn. ‘Ond .. ond mae fan’no’n bell!’ ‘Rwyt ti’n fachgen cryf a dewr,’ cysurodd ei fam. Wrth gwrs fy mod i, meddyliodd Dafydd gan wasgu ei llaw. Ac roedd hithau wedi blino hefyd, doedd? Roedd hi’n wargam, fel pe bai bob cam yn boen. ‘Brysiwch! Brysiwch!’ bloeddiodd Moses ac Aaron o’r blaen gan daflu cipolwg yn ôl bob yn hyn a hyn. Roedden nhw ofn i Pharo galedu ei galon unwaith eto ac anfon ei filwyr i’w gorfodi’n ôl. O’r diwedd cyraeddasant y Môr Coch. ‘Mi gawn ni aros yma am ychydig,’ penderfynodd Moses. Ochneidiodd Dafydd yn falch. Roedd o eisio gorwedd i lawr ers meitin. Ond roedd yn rhaid iddo ofalu am y defaid a’r geifr efo’i dad yn gyntaf, er mwyn i’w fam gael gorffwys. Fydda i ddim chwinciad, meddyliodd wrtho’i hun. Yna mi ga i olchi fy nhraed yn y dwr a chysgu’n braf am oriau. Edrychodd i gyfeiriad y twyni tywod. Drybowndiodd ei galon yn sydyn. Oedd yna gysgodion yn y pellter? Cysgodion oedd yn trafaelio’n gyflym tuag atynt a llwch yn codi’n gymylau y tu ôl iddynt. Disgynnodd ei galon fel plwm. ‘Edrychwch,’ galwodd. ‘Yr Eifftiaid!’ meddai ei dad mewn dychryn. ‘YR EIFFTIAID!’ bloeddiodd wedyn. Neidiodd pawb i fyny’n wyllt. ‘Mae Pharo wedi ein twyllo,’ gwaeddodd pawb. ‘Mae ar ben arnon ni!’ ‘Mae Duw gyda ni,’ cysurodd Moses. Ond doedd Dafydd ddim mor siwr. Crynodd wrth glywed swn cerbydau’r fyddin yn diasbedain yn ei glustiau. Yna symudodd y golofn niwl yn fur i guddio popeth. Doedd y milwyr ddim yn eu gweld bellach. Mae ar ben arnon ni, meddyliodd Dafydd yn ddigalon. Dim ots bod y golofn niwl yn ein cuddio. Mae’r môr o’n blaen a’r milwyr y tu ôl. Ceisiodd ymwroli. Mi ymladda i i’r eitha cyn mynd yn ôl i’r Aifft, addawodd. Yna gwelodd rywbeth rhyfedd iawn. Safai Moses ar y lan. Roedd o’n chwifio ei law .. a’r môr yn agor gan adael llwybr rhwng y tonnau! ‘Ewch ar unwaith,’ gorchmynnodd Moses. ‘Dyma’n dihangfa.’ Brysiodd Dafydd ar ôl ei rieni. Ceisiodd anwybyddu y tonnau bygythiol a godai’n furiau o bobtu, a’r pigyn a frathai ei ysgyfaint hefyd. Caeodd ei lygaid rhag edrych i fyny. Ond fe wyddai bod y dwr yn cyrlio fel to uwch eu pennau. Oedd o am eu claddu am byth! Brysiodd ymlaen a’i draed yn suddo ar y llwybr lleidiog. ‘Plis ga i gyrraedd y pen draw,’ gweddïodd. ‘Plis, Dduw!’ Roedd o bron â chyrraedd pan gliriodd y niwl i ddangos y milwyr unwaith eto. Daeth bloedd fawr wrth i’r fyddin ganfod y llwybr. ‘Ymlaen ar unwaith. Daliwch nhw!’ Chwipiodd y milwyr y ceffylau ar y llwybr. Taranodd yr olwynion rhwng y muriau dyfrllyd. Rhedodd yr Israeliaid nerth eu traed. Roedden nhw’n baglu ac yn crafangio’n ôl ar eu traed drachefn. Ond er iddyn nhw redeg eu gorau glas, roedd yr Eifftiaid wrth eu sodlau. O’r diwedd, cyrhaeddodd pawb y tir sych a throi i edrych yn ôl yn ofnus. ‘Be wnawn ni rwan?’ ebychodd Dafydd. Doedd unlle i ddianc rhagor. Suddodd yn ddigalon ar y lan. Doedd o ddim eisio edrych. Doedd o ddim eisio wynebu y gelyn a thyfu i fyny’n gaethwas. Yna clywodd swn rhyfedd. Swn dwr yn dymchwel a rhuthro i guddio’r llwybr a holl fyddin yr Aifft. Ceisiodd y cerbydau droi’n ôl. Ond roedd yn rhy hwyr. Taranodd y môr yn chwyldro gwyllt drostynt. Yn fuan, doedd dim i’w weld ond ewyn gwyn a thonnau cythryblus yn chwpio ôl a blaen. Roedd Duw wedi eu hachub!
|
||