Ecsodus (haen 2)

Gorweddai Dafydd yn swrth o dan y cwrlid tenau yn cofio am y wledd ardderchog a gafodd o a’i deulu y noson cynt. Gwledd o gig oen rhost, llysiau chwerw a bara croyw. Chawson nhw ddim gwledd fel’na ers cantoedd.

Pam y cawson nhw’r fath wledd? Caethweision tlawd oedd yr Israeliaid i gyd. Ac roedd yn rhaid iddyn nhw weithio’n galed i’r Eifftiaid.

Roedd yn rhaid iddyn nhw gasglu gwellt o’r caeau a’i gymysgu efo mwd i wneud briciau. Ac os y bydden nhw’n gwrthod, mi fyddai’r Eifftiaid yn eu chwipio’n ddidrugaredd.

A doedd hynny ddim yn deg! Y nhw oedd yn gweithio a’r Eifftiaid yn cael bywyd braf. Ac er bod Moses wedi gofyn a gofyn i Pharo, fe wrthododd yn bendant adael iddyn nhw fudo o’r wlad.

Duw oedd wedi gorchymyn i’r Israeliaid gynnal gwledd heno. A dyna beth od, roedd o wedi gorchymyn iddyn nhw roi gwaed yr oen ar bostyn pob drws hefyd.

‘Pam, Mam?’ holodd Dafydd.

‘Mae Duw am anfon y degfed pla,’ oedd yr ateb.

Eitha gwaith â’r Eifftiaid cas!

‘Wnaiff Moses droi’i wialen yn sarff eto, Mam? Fydd yna ddðr coch yn afon Nil. A locustiaid a llyffantod a llau yn blino’r Eifftiaid? Fydd yna glefyd mawr ar eu hanifeiliaid, a storm yn difetha popeth fel o’r blaen?’

‘Gwaeth o lawer,’ meddai ei fam. ‘Ond mi fyddwn ni’n ddiogel.’

Sychodd ddeigryn.

‘Druan o’r rhieni,’ meddai’n drist.

Fyddai plant yr Eifftiaid yn marw?

Am hanner nos, daeth swn beichio crio o dai’r Eifftiaid.

‘Fy mab! Mae o wedi marw!’

‘Wnaiff Pharo ddim mynd yn ôl ar ei air y tro yma,’ meddai tad Dafydd yn fodlon. ‘Mae meibion hynaf yr Eifftiaid i gyd yn farw.’

Trodd at ei deulu.

‘Rhaid inni baratoi. Does gan Pharo ddim dewis. Mi fydd yn rhaid iddo ein gollwng yn rhydd rwan.’

Ac felly y bu. Roedd Pharo’n wyllt gacwn, ond yn drist hefyd am fod ei fab yntau wedi marw. Daeth ei lais croch o gyfeiriad y palas.

‘Ewch o fy ngolwg i. Y chi a’ch teuluoedd a’ch anifeiliaid.’

Hwre! Roedd Dafydd yn wên o glust i glust. Ond roedd cant a mil o bethau i’w gwneud cyn cychwyn. Brysiodd i helpu’i dad efo’r defaid a’r geifr. Dyna antur fyddai teithio drwy’r anialwch i gartre newydd.

Ond beth petaen nhw’n mynd ar goll? Neu’n marw o newyn ac o eisio diod?

Trodd i ofyn i’w dad. Ond roedd llygaid ei dad ar rywbeth ymhell ar y blaen. Trodd Dafydd i edrych hefyd. Whiw! Roedd colofn o niwl yn dangos y ffordd iddyn nhw!

‘Moses ddefnyddiodd ei wialen i godi’r niwl, yntê?’ meddai Dafydd.

‘Duw sy’n ein helpu,’ meddai ei dad.

Pa iws ydi colofn niwl yn y nos, meddyliodd Dafydd.

Ond pan ddaeth y nos, tródd y golofn niwl yn golofn dân lachar.

Erbyn bore trannoeth, roedd Dafydd wedi blino’n llwyr. Roedd ei draed yn lympiau llosg a’i gefn fel pren anystwyth. Dylyfodd ên yn flinedig.

‘Gawn ni aros am ychydig,’ erfyniodd.

‘Rhaid cyrraedd y Môr Coch gyntaf,’ meddai’i dad.’

‘Ond mae fan’no’n bell!’, meddai Dafydd yn syn.

‘Rwyt ti’n fachgen cryf a dewr,’ cysurodd ei fam.

‘Brysiwch!’ bloeddiodd Moses ac Aaron o’r blaen gan edrych yn ôl bob yn hyn a hyn.

Beth petae Pharo yn ailfeddwl ac yn anfon ei filwyr gorau i’w gorfodi’n ôl.

‘Mi aroswn ni yma am ychydig,’ penderfynodd Moses wedi cyrraedd y lan.

‘Diolch byth!’ ebychodd Dafydd.

Bu’n rhaid iddo helpu’i dad gyntaf efo’r defaid a’r geifr er mwyn i’w fam gael gorffwys.

Fydda i ddim chwinciad, meddyliodd. Mi ga i olchi fy nhraed wedyn a chysgu.

Edrychodd i gyfeiriad y twyni tywod. Llyncodd boer nerfus. Roedd milwyr yn carlamu’n gyflym tuag atynt.

‘Edrychwch!’ galwodd yn grynedig.

‘YR EIFFTIAID!’ bloeddiodd ei dad.

Neidiodd pawb i fyny’n ferw gwyllt.

‘Mae Pharo wedi ein twyllo,’ gwaeddasant.

‘Mae Duw gyda ni,’ cysurodd Moses.

Mae ar ben arnon ni rwan, meddyliodd Dafydd. Caethwas yn yr Aifft fydda i.

Yr eiliad honno, symudodd y golofn niwl i’w cuddio rhag y milwyr. Yna gwelodd Dafydd Moses yn chwifio’i law .. a’r môr yn agor! Symudodd y dwr o’r neilltu a gadael llwybr rhwng y tonnau.

‘Dyna’r ffordd,’ gwaeddodd Moses.

Rhedodd pawb ymlaen. Doedd Dafydd ddim eisio edrych i’r dde na’r chwith. Nac i fyny chwaith! Fe wyddai bod y dwr yn bygwth cyrlio fel to uwch ben. Ac roedd arno ofn!

Brysiodd ymlaen a’i draed yn suddo ar y llwybr lleidiog.

‘Plis ga i gyrraedd y pen draw,’ gweddïodd. ‘Plis, Dduw!’

Pan giliodd y golofn niwl, gwelodd y milwyr yr Israeliaid yn dianc.

‘Daliwch nhw!’ gwaeddodd y capteiniaid.

Chwipiodd y milwyr y ceffylau ymlaen.

‘Be wnawn ni rwan?’ ebychodd Dafydd wedi cyrraedd y tir sych.

Doedd unlle i ddianc rhagor.

Yna clywodd swn rhyfedd. Swn dwr yn dymchwel i guddio’r llwybr a’r fyddin oedd arno. Ceisiodd y milwyr droi’n ôl. Ond roedd yn rhy hwyr. Taranodd y môr drostynt.

Yn fuan, doedd dim i’w weld ond ewyn gwyn a thonnau yn chwipio’n ôl a blaen yn y gwynt.

Roedd Duw wedi eu hachub.