|
Gweithgaredd 2 Ewch i’r Beibl. Darganfyddwch hanes ffoi o’r Aifft. Casglwch nifer o eiriau allweddol o’r hanes gan eu gosod ar grid ar gyfer croesair. Rhifwch ddechrau pob gair, mewn arddull croesair. Yna lluniwch gwestiynau ar gyfer y geiriau ar draws ac i lawr. Cyfnewidiwch gyda ffrind. Cofiwch mai 1 llythyren ydy ch dd ff ng ll rh th Cofiwch dduo sgwariau gwag. Gofynnwch i’ch athro neu athrawes edrych os yw’r geiriau yn gywir cyn i chi ofyn i’ch ffrind ddatrys y croesair.
|
Ar draws I lawr