yn ôl

Gweithgaredd 6
Gweddi

Ar ôl cyrraedd y gwersyll ffoaduriaid mae Dafydd yn teimlo ei fod angen siarad â Duw. Mae’n gwneud hyn drwy weddi. Dychmygwch mai chi yw Dafydd ac ysgrifennwch weddi.

Nodweddion Gweddi

Mae pedair rhan i weddi:

  • Addoli – canmol Duw yw hyn e.e. Ein Tad, Sanctaidd Dduw, Hollalluog Dduw, O Arglwydd.
  • Diolch – mae angen i Dafydd gyfleu ei ddiolch e.e. am gael ffoi.
  • Cyffesu – mae angen cyfaddef unrhyw ddrwg a wnaed yn y gorffennol e.e. drygioni plentyn.
  • Gofyn – mae angen gofyn am ddymuniad ar gyfer y dyfodol.
  • Cofiwch gloi eich gweddi yn addas.