yn ôl

Gweithgaredd 3
Stori a Sgwrs

Ar ddiwedd hanes Yury Gagarin ar y we fe ddywedir ei fod wedi glanio yn Siberia. Ysgrifennwch stori fer am y glaniad ac am syndod trigolion Siberia.

Yn eich stori dylech sicrhau:

  • eich bod yn cynnwys sgwrsio rhwng Gagarin a dau o drigolion y pentref lle y glaniodd gan ddefnyddio dyfynodau siarad yn gywir
  • eich bod yn defnyddio amrywiaeth o ferfau ac adferfau yn dilyn y dyfynodau siarad – nid ‘meddai’ bob tro
  • cydbwysedd rhwng y deialog a’r naratif
  • eich bod yn cynnwys disgrifiadau manwl, e.e. o’r roced, y glaniad, gwisg Gagarin, yr amgylchedd neu’r trigolion lleol.

Yn ogystal ceisiwch gynnwys:

  • idiomau
  • cymariaethau