yn ôl

Gweithgaredd 4
Ysgrifennu Deialog

Efallai eich bod wedi gweld rhai o deithiau i’r gofod ar y teledu. Bydd y gofodwr yn siarad gyda gweithwyr yn y Ganolfan Ofod yn Houston, Texas.

Lluniwch sgwrs rhwng Yuri Gagarin a Ted, un o reolwyr y ganolfan.

Gallai Ted ei holi am:

  1. yr hyn y mae’n ei weld drwy’r ffenestr
  2. y teimlad yn y llong ofod wrth iddi godi o’r ddaear a chyrraedd y gofod
  3. y teimlad o arnofio yn y gofod oherwydd diffyg disgyrchiant
  4. y profiad o fwyta ac yfed yn y gofod
  5. ei ofnau

Nodweddion Deialog

  • Enwau’r cymeriadau ar yr ochr chwith
  • Iaith lafar
  • Nid oes angen cyflwyno gwybodaeth ychwanegol mewn cronfachau e.e. synnau na symudiadau