|
Gweithgaredd 5
Llythyr Swyddogol
Yn y dyfodol bydd pobl yn gallu byw yn y
gofod.
Rydych yn darllen hysbyseb sydd yn gwahodd
pobl i ymgeisio i ennill sedd ar long ofod sydd yn mynd â’r pentrefwyr
cyntaf i fyw ar orsaf ofod newydd sbon.
Bydd rhaid i chi ysgrifennu llythyr yn cynnig
rhesymau pam mai chi ddylai gael eich dewis. Dylai fod gennych:
- Swydd angenrheidiol ar gyfer gorsaf ofod
- Diddordebau a fyddai o fudd i eraill
- Personoliaeth addas
|
Nodweddion llythyr swyddogol
- Eich cyfeiriad chi ar y dde ar frig
y dudalen
- Cyfeiriad cwmni’r orsaf ofod oddi
tano ar yr ochr chwith, e.e. Cwmni Gofod Cymru, Stryd y Castell,
Caernarfon, Gwynedd
- Y dyddiad oddi tano
- Dechrau llythyr gyda – Annwyl
Syr/Madam,
- Trefnu eich rhesymau i dri paragraff
- Ysgrifennu ffurfiol, i’r pwynt ac
yn gwrtais
- Gorffen eich llythyr gyda – Yn
gywir neu Yr eiddoch yn gywir
|
|