Teithio i'r Gofod  (haen 1)

Ar y 12fed, Ebrill, 1961 aeth y dyn cyntaf i’r gofod. Bu Yuri Gagarin, o Rwsia yn teithio o gwmpas y ddaear am gant ag wyth o funudau. Yna ar ôl bod o gwmpas y ddaear un waith dychwelodd yn ôl i’r ddaear a glanio mewn cae yn Rwsia. Enw’r roced gyntaf i’w hyrddio i’r gofod oedd VOSTOK 1.

Mae pob llong ofod angen roced i’w gyrru i’r gofod. Mae’r rocedau’n gweithio trwy losgi tanwydd ac yna’n defnyddio nwyon llosg i’w hanfon yn uwch ac yn uwch. Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio roced sydd wedi ei rhannu’n dair rhan. Mae’r rhan gyntaf yn gyrru’r roced i’r atmosffer. Ar ôl i’r tanwydd gael ei ddefnyddio mae’r rhan yma’n syrthio’n ôl i’r ddaear. Mae’r ail ran, sy’n ysgafnach na’r rhan gyntaf, yn gwthio’r roced yn uwch gan gyrraedd cyflymder mawr. Yna bydd yr ail ran yn syrthio’n ôl i’r ddaear. Mae’r rhan olaf yn anfon y llong ofod i orbid neu ymhellach fyth i’r gofod. Gan fod disgyrchiant y ddaear mor gryf mae’n rhaid i’r rocedau fod yn rhai pwerus iawn. Mae’n nhw’n gallu cyrraedd cyflymder o 40,000 KM yr awr. Bydd y rocedi hyn yn llosgi 13 tunnell o danwydd pob eiliad.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gwyddonwyr wedi defnyddio dull newydd o anfon pobl i’r gofod. Y Wennol ofod ydi’r unig long ofod sy’n gallu teithio i’r gofod a dychwelyd i’r ddaear. Yr enw ar y rhan y gellir ei ail ddefnyddio ydi’r CYLCHDRÖWR.

Bydd y Wennol ofod yn codi o Fae Canaveral yn Fflorida, America. Fel arfer, rhyw 10 diwrnod fydd y daith yn para. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y wennol yn mynd o gwmpas y ddaear oddeutu 160 o weithiau. Ar ôl i’r Wennol godi o’r ddaear bydd pob munud o’i thaith yn cael ei dilyn o Ganolfan Houston, yn Texas. Bydd oddeutu 30 o bobl yn dilyn hynt a helynt y llong ofod trwy gysylltu’n uniongyrchol â hi. Mae map o’r byd ar y sgrin sy’n dangos taith y llong ofod yn glir. Gellir gweld lleoliad y llong ofod ar unrhyw adeg. Pwrpas anfon y Wennol ofod i’r atmosffer ydi cario lloerenau, a labordai er mwyn astudio mwy am yr hyn sy’n digwydd yno. Un rhan o waith y Wennol ydi gwneud gwaith cynnal a chadw ar y telesgob Hubble sydd yn y gofod.

Pan fydd y Wennol yn dychwelyd i’r ddaear bydd teiliau arbennig ar ei hochr yn ei chadw rhag llosgi’n ulw gan wres yr haul. Ar ôl taro’r maes glanio bydd un parasiwt yn cael ei ddefnyddio er mwyn ei helpu i arafu. Bydd yn taro’r ddaear ar gyflymder o 320 KM yr awr. Ar 28 Ionawr, 1986 bu trychineb mawr. Fe ffrwydrodd y llong ofod ar ôl i nwy poeth ollwng o un o’r rocedau a llosgi trwy’r tanc oedd yn dal y tanwydd. Roedd y ffrwydriad, ar ôl 73 eiliad, yn anferthol gyda mwg gwyn yn gorchuddio’r cyfan. Fe syrthiodd y gweddillion i’r môr. Bu farw’r saith gofodwr oedd ar fwrdd y Wennol ofod.

Yn y dyfodol bydd pobl yn gallu byw yn y gofod. Fe fyddan nhw’n byw mewn gorsafoedd arbennig. Y record am fyw ar orsaf ofod ydi 438 o ddyddiau – blwyddyn a mwy. Bu Valeri Poliakov o Rwsia yn byw ar orsaf ofod Mir ac erbyn hyn mae gwyddonwyr wedi dysgu llawer am y ffordd o fyw i fyny yna yn y gofod.