Teithio i'r Gofod (haen 2)

Yuri Gagarin oedd y dyn cyntaf i fynd i’r gofod,. Roedd o’n dod o Rwsia. Enw’r roced oedd yn ei yrru i’r gofod oedd VOSTOK 1.

Mae angen rocedau pwerus i yrru llongau gofod. Mae roced wedi cael ei rhannu yn dair rhan. Y rhan gyntaf sy’n tanio a chodi’r llong ofod. Mae’r ail ran yn ei hanfon yn gyflym iawn. Mae’r drydedd ran yn anfon y llong ofod i orbid. Erbyn hyn mae hi ymhell, bell o’r ddaear.

Yn ystod y blynyddoedd olaf yma mae’r Wennol ofod yn cario pobl i fyny i’r gofod. Mae hon yn gallu dod yn ôl i’r ddaear. Gellir ail ddefnyddio rhan ohoni. Yr enw ar y rhan yma ydi’r CYLCHDRÖWR.

Bydd y Wennol ofod yn codi o Fae Canaveral, Fflorida, yn America. Bydd y daith yn para rhyw 10 diwrnod. Ar ddiwedd y daith bydd y Wennol ofod wedi mynd o gwmpas y ddaear rhyw 106 o weithiau. Bydd y daith yn cael ei dilyn gan wyddonwyr ar y ddaear. Maen nhw’n gallu cysylltu â’r Wennol bob cam o’r daith. Gwaith y Wennol ofod ydi cario lloerenau a labordai. Fe fydd y bobl ar ei bwrdd yn gwneud gwaith cynnal a chadw hefyd. Un rhan o’u gwaith ydi gofalu am y telesgob Hubble.

Bydd y Wennol ofod yn dod i lawr i’r ddaear ar gyflymder mawr – 320 KM yr awr. Bydd parasiwt yn ei helpu i arafu. Ym 1986 fe ffrwydrodd y Wennol ofod ar ei ffordd i’r gofod. Bu farw 7 o’r gofodwyr oedd ar ei bwrdd.

Ymhen rhai blynyddoedd bydd pobl yn gallu byw mewn gorsafoedd yn y gofod. Mae un gŵr o Rwsia sef Valeri Poliakov, wedi byw mewn gorsaf yn y gofod am 438 o dyddiau.

Mae gwyddonwyr wedi dysgu llawer am fyw yn y gofod erbyn hyn.