|
Gweithgaredd 2 Mae nifer fawr o frawddegau yn cychwyn efo cymalau sy’n cyfeirio at amser. Dyma rai enghreifftiau: Dyma ddechrau… Yn raddol… Yn y cyfnod hwn… Mae hyn yn ddull effeithiol o ddatblygu testun sy’n cyfeirio at wahanol gyfnodau mewn hanes. Darganfyddwch saith cymal tebyg. Tanlinellwch nhw. Yn awr, lluniwch baragraff am ddatblygiad dulliau teithio, gan ddefnyddio’r cymalau i gychwyn eich brawddegau, e.e. gallwch gyfeirio at geffyl a throl yn cael ei ddisodli gan y car cyntaf a’r datblygiad i geir modern heddiw. |