|
Teithio mewn balwn (haen 1) Fyddech chi’n hoffi mynd mewn balŵn i fyny i’r awyr? Mae yna lawer o bobl, erbyn hyn, yn perthyn i glybiau balwnio. Cofiwch, nid balwnau fyddech chi yn eu defnyddio mewn te parti ydi’r rhain. Mae nhw’n falwnau mawr a basged yn sownd ynddyn nhw. Yn y fasged bydd y bobl yn cael eu cario. Mae’r balwnau yn defnyddio aer poeth i’w gyrru ymlaen. Dau frawd o Ffrainc, Joseff ac Etienne oedd y rhai cyntaf i anfon balŵn i’r awyr. Roedden nhw wedi bod yn gwylio’r mwg yn codi o’r tân yn y gegin. Roedd y mwg bob tro yn codi’n syth i fyny i’r awyr. Dyma benderfynu rhoi ychydig o’r mwg mewn bag papur a gweld beth fyddai’n digwydd. Cododd y bag, ar unwaith, i fyny i nenfwd y gegin. Dyma ddechrau arbrofi efo bagiau eraill wedi eu gwneud o wahanol ddeunyddiau. Ar y cychwyn, doedd y brodyr ddim wedi deall mae’r aer poeth oedd yn codi’r bagiau ac nid y mwg o’r tân. Roedd y tân yn poethi’r aer ac felly roedd yr aer poeth yn codi. Ymhen y flwyddyn, ar ôl arbrofi fel hyn, roedden nhw wedi gwneud bag o sidan. Ond roedd hwn yn fag mawr, 960cm o ddiamedr! Dyma fynd ati i gynnau tanllwyth o dân ar sgwâr y pentref a rhoi’r bag sidan uwch ei ben. Yn raddol cododd y bag sidan i’r awyr. Fe gododd y bag, sef y balŵn gyntaf, gymaint â milltir i fyny i’r awyr. Ond ar ôl i’r aer poeth ddechrau oeri fe ddaeth y balŵn i lawr i’r ddaear. Fe ddigwyddodd hyn ar Mehefin, 5, 1783. Buan iawn yr aeth y newydd am y balŵn gyntaf ar hyd ac ar led. Yn y cyfnod hwn roedd gwyddonydd o Loegr, o’r enw Henry Cavendish, wedi darganfod nwy o’r enw hidrogen. Roedd y nwy hwn yn ysgafnach nag aer. Ond nwy peryglus oedd hwn gan ei fod yn ffrwydro ar ddim. Fe ddefnyddiwyd y nwy hwn laweroedd o weithiau ond roedd damweiniau yn digwydd yn aml a phobl yn cael eu lladd. Erbyn hyn, y nwy heliwm sy’n cael ei ddefnyddio mewn balwnau. Balwnau heb bobl ynddyn nhw oedd y rhai cyntaf i esgyn i’r awyr. Anifeiliaid sef dafad, ceiliog a hwyaden oedd y rhai cyntaf i fynd mewn balŵn ym Medi 1783. Fe ddaethon nhw i lawr i’r ddaear yn ddi anaf. Yn Nhachwedd, yr un flwyddyn, fe aeth y dynion cyntaf i fyny mewn balŵn. Dau Ffrancwr oedd y rhain. Cododd y balŵn o Paris, prifddinas Ffrainc a bu yn yr awyr am 23 o funudau. Ymhen y mis roedd Ffrancwr arall wedi teithio 27 o filltiroedd a hynny mewn awr a thri chwarter. Yn ystod y blynyddoedd oedd yn dilyn roedd pobl mewn sawl gwlad yn arbrofi efo balwnau. Yn ystod y ddau ryfel byd roedd balwnau a llongau awyr yn llawn o nwyon yn cael eu defnyddio. Roedd y rhain yn cael eu defnyddio o gwmpas dinasoedd a threfi i’w gwarchod rhag i awyrennau’r gelyn ymosod arnyn nhw. Ym 1943 penderfynodd y Japaneaid anfon balwnau, yn llawn ffrwydron ar draws y Môr Tawel i America. Er i lawer ohonyn nhw gyrraedd America ychydig iawn o ddifrod wnaethon nhw. Erbyn heddiw mae balwnau yn cael eu defnyddio i ymchwilio i’r tywydd i fyny yn yr atmosffer. Mae yna hefyd glybiau balwnio ar hyd a lled Prydain. Mae pobl yn defnyddio’r rhain i deithio er mwyn pleser. Yn Llangollen bob blwyddyn mae yna arddangosfa o falwnau a llawer ohonyn nhw’n hysbysebu cwmnïau mawr y wlad. Camp fawr y balwnwyr ydi teithio o gwmpas y byd a hynny mewn cyn lleied o amser â phosib.
|
||