|
Teithio mewn balwn (haen 2) Fyddech chi’n hoffi teithio mewn balŵn? Balwn gyda basged fawr yn hongian oddi tani? Bydd pobl yn cael eu cario yn y fasged. Aer poeth sy’n gyrru’r balŵn. Dau frawd o Ffrainc oedd y rhai cyntaf i yrru balŵn i’r awyr. Ar ôl bod yn gwylio’r mwg yn codi o’r tân fe aeth y ddau i arbrofi. Dyma roi ychydig o’r mwg mewn bag papur. Cododd y bag papur i nenfwd y gegin. Nid y mwg oedd yn codi’r bag ond yr aer poeth oedd yn codi’r bag i fyny i’r nenfwd. Dyma fynd ati i wneud bag mawr sidan 960cm o ddiamedr. Yna rhoi’r bag uwchben tân mawr ar sgwâr y pentref. Cododd y bag i’r awyr. Ar ôl iddo godi milltir i’r awyr fe ddaeth i lawr i’r ddaear. Roedd yr aer poeth wedi oeri erbyn hyn. Yn y cyfnod hwn fe ddarganfwyd nwy o’r enw hidrogen. Nwy ysgafn oedd hwn. Ond roedd yn nwy peryglus iawn. Dyma ddechrau defnyddio hwn mewn balwnau. Ond roedd llawer o bobl yn cael eu lladd gan ei fod yn ffrwydro ar ddim. Y nwy heliwm sy’n cael ei ddefnyddio erbyn heddiw. Anifeiliaid oedd y rhai cyntaf i fynd mewn balŵn. Ym Medi 1783 fe roddwyd dafad, ceiliog a hwyaden mewn balŵn. Yna yn Nhachwedd 1783 fe aeth y ddau ddyn cyntaf i fyny mewn balŵn. Bu’r balŵn yn yr awyr am 23 munud. Yn ystod y ddau ryfel byd roedd balwnau yn cael eu defnyddio i amddiffyn dinasoedd a threfi. Ym 1943 anfonodd y Japaneaid falwnau dros y Môr Tawel i America. Roedd ffrwydron yn y balwnau hyn. Ond ychydig o ddifrod wnaethon nhw. Mae balwnau heddiw yn cael eu defnyddio i ymchwilio i’r tywydd. Mae yna glybiau balwnau ym Mhrydain. Pobl yn defnyddio balwnau er mwyn pleser ydi’r rhain. Yn Llangollen, bob blwyddyn, mae llawer o falwnau yn cael eu dangos. Y gamp fawr i’r balwnwyr ydi teithio o gwmpas y byd a hynny mewn cyn lleied o amser a phosib.
|
||