|
Trên y Wyddfa (haen 1) ‘Dyma eich gwaith cartre y penwythnos ‘ma,’ cyhoeddodd Miss Jones. ‘Sgrifennu stori am reilffordd yr Wyddfa. A hynny erbyn bore Llun.’ ‘Ooo .. Miss,’ grwgnachodd Tomos.’Rydw i’n chwarae pêl droed 'fory.’ ‘A finna’n mynd i siopio efo Mam,’ meddai Llinos. Roedd 'sgrifennu stori ar benwythnos yn faich ofnadwy. Newydd wneud prosiect ar y rheilffordd oedden nhw. A rwan, roedd Miss Jones eisio storïau i gydfynd efo’r gwaith. Cyd-gerddodd y ddau i gyfeiriad eu cartrefi yn benisel. Nid nad oedden nhw’n hoffi sgrifennu stori. Ond ar benwythnos! Bu Llinos yn chwilota am syniad da trwy'r gyda’r nos. Ond er iddi bendroni, fedrai hi ddim meddwl beth i’w sgwennu. Bu’n troi a throsi ganwaith cyn llwyddo i gysgu wedi iddi fynd i’r gwely. Cysgodd o’r diwedd. Yn fuan, dechreuodd freuddwydio. Diwrnod agor rheilffordd yr Wyddfa flynyddoedd maith yn ôl oedd hi ac roedd hi’n cerdded efo'i mham am yr orsaf. Gwisgai Mam sgert dywyll laes a het efo pluen ynddi, ac roedd ganddi hithau ffrog efo coler lês wen, het wellt, a bwtias sgelin at ei ffêr. Teimlai ei dillad yn drwm a chaethiwus ar ddiwrnod mor braf. Rhedodd criw o blant heibio gan weiddi a chadw stwr. ‘Dydi’r plant yma’n malio dim am achlysur mor bwysig,’ meddai Mam yn biwis. ‘Rhag cywilydd iddyn nhw gadw reiat.’ Ailosododd ei het ar yr osgo iawn a phletiodd ei gwefusau. Ochneidiodd Llinos. Mi fuasai hi wrth ei bodd yn cael rhyddid i redeg a chwarae run fath â’r plant eraill. Ond doedd wiw iddi am fod Mam ar bigau'r drain. Roedd hi’n ofni i rywbeth ddigwydd am mai heddiw oedd agoriad swyddogol y rheilffordd a chan fod gan Dad ran mor bwysig. Y fo oedd dreifar un o’r trenau. ‘Mi fydd pawb yn edrych arnon ni,’ rhybuddiodd Mam. ‘Cofia di bihafio.’ ‘Iawn,’ ochneidiodd Llinos. Ond O! Mor braf fuasai cael ymuno yn yr hwyl efo’r plant eraill. Roedden nhw’n gwau yn ôl ac ymlaen rhwng y cerddwyr ac yn chwarae mig a thynnu ystumiau ar ei gilydd. Ond er ei bod hi ar dân eisio ymuno, châi hi ddim. Ddim â llygaid barcut Mam arni. Codai ager yn llinyn diog o gyrn y ddwy injan pan gyrhaeddon nhw’r orsaf. Tad Tomos oedd dreifar injan ENID, a Dad oedd dreifar injan LADAS. Roedd Llinos bron â thorri’i bol eisio rhedeg at LADAS i siarad efo Dad. Ac efallai y buasai hi’n cael dringo i mewn i’r caban ganddo hefyd. Dyna hwyl fuasai hynny! Ond roedd hynny’n amhosibl fel roedd rhedeg a chwarae yn amhosibl. Syllai Dad a’r taniwr allan o’r caban. Edrychent yn bwysig iawn, ond braidd yn nerfus hefyd. Roedd heddiw’n ddiwrnod mor bwysig. Pwysleisiodd Mam hynny hyd at syrffed. ‘Hei, Llinos,’ gwaeddodd Tomos wrth ruthro heibio. ‘Dwad?’ ‘Dwad wir,’ dwrdiodd Mam. ‘Does dim cow ar yr hogyn Tomos ‘na. A meddwl mai ei dad ydi dreifar Enid.’ Casglodd torf fawr ar y platfform ymhell cyn amser cychwyn. Hanner awr wedi deg oedd yr amser swyddogol, ond roedd rhai pobl bwysig heb gyrraedd. Felly roedd yn rhaid i bawb ddisgwyl. ‘Mi fyddwn ni’n cychwyn am ddeg munud i unarddeg,’ cyhoeddodd swyddog. ‘Dyma ddiwrnod bythgofiadwy. Ebrill 6ed 1896. Diwrnod siwrnai gyntaf rheilffordd yr Wyddfa.’ ‘Hwre!’ gwaeddodd pawb gan guro’u dwylo'n egnïol. Dylyfodd Llinos ên yn ddiflas. Ceisiodd ystwytho ychydig ar fodiau’i thraed. Ond roedd ei choesau’n stympiau blinedig wedi sefyll mor hir. Wn i ddim pam mae’r dyn ‘na’n brygawthan, meddyliodd. Rydw i eisio cychwyn. ‘Mam!’ ceisiodd sibrwd. ‘Mae nhraed i’n brifo!’ ‘Ssh!’ hisiodd Mam yn ddiamynedd. ‘Fedra i ddim dawnsio tendans arnat ti o hyd.’ O’r diwedd daeth yn amser cychwyn. Dringodd pawb i’r cerbydau. Roedd Mam a hithau yn teithio yn un o gerbydau LADAS am mai Dad oedd y dreifar. Ond trên ENID efo tad Tomos yn dreifio oedd yn mynd gyntaf. ‘Wela i di!’ gwaeddodd Tomos gan wenu fel gât wrth ddringo i’r cerbyd. ‘Iawn!’ gwaeddodd Llinos yn ôl. ‘Sssh!’ rhybuddiodd Mam ar binnau wrth feddwl am yr holl fyddigions oedd yno. Ond doedd dim ots gan Llinos. Dringodd i’r cerbyd ochr agored. Hongiai llenni o bobtu’r tyllau ffenstri yn barod i’w cau pan fyddai’n oer. Ond roedd hi’n ddiwrnod heulog braf heddiw. Pwff! Pwff! Swniodd y corn fel y cychwynasant. Gwingodd Llinos ar ei sedd wrth i’r injan bwff-pwffian ei ffordd yn drafferthus am y copa. ‘Mae’r defaid a’r gwartheg yn smotiau bach,’ chwarddodd wrth ei bodd. Yn fuan, estynnai’r llethrau moel yn gwrlid clytiog o frwyn a cherrig o bobtu iddynt. Tybed lwyddai’r injan i’w gwthio yr holl ffordd? Oedd ENID a cherbyd Tomos wedi cyrraedd y copa? Cyraeddasant o’r diwedd. Drybowndiodd calon Llinos wrth ddringo o’r cerbyd a chychwyn cerdded y llwybr cul i’r copa. Roedd hi ar ben yr Wyddfa, mynydd uchaf Cymru a Lloegr! Hwre! meddyliodd wrth edrych ar y garnedd a adeiladwyd wrth ymyl y caffi, ac ar y creigiau yn bentyrrau blith draphlith o gwmpas. ‘Grêt, te!’ gwaeddodd Tomos gan sboncio fel gafr i ben carreg fawr. Safodd arni a chwpanu ei geg. Gwaeddodd ‘IYHOOO!’ nerth ei ben. ‘Celpan mae o eisio,’ meddai Mam yn feirniadol. ‘Yn cambihafio a dangos ei hun fel hyn.’ Ond doedd dim amser i loetran yno. Erbyn hyn, casglai cymylau i guddio’r wlad oddi tanynt a llifai niwl ysgafn yn fantell llaith tros y copa. Trên LADAS oedd y cyntaf i gychwyn. Chwifiodd Llinos ei llaw ar Tomos. Ymlaciodd Mam o’r diwedd. ‘Fyddwn ni fawr o dro â chyrraedd y gwaelod rwan,’ meddai’n ddiolchgar. ‘Mi gaiff Dad glôd mawr am ddreifio mor llwyddiannus.’ ‘Oooo!’ gwaeddodd wrth i’r cerbyd frecio’n sydyn frwnt. Yna clywsant glec anferth a lleisiau’r rhybuddio’n groch. Yr eiliad nesaf daeth swn malurio dychrynllyd wrth i rywbeth trwm metalaidd ddymchwel a drybowndio i lawr y dibyn. Cododd y lleisiau’n gorws y tu allan. Rhythodd pawb trwy’r ffenest a’u calonnau yn eu gyddfau. Dychrynasant. Beth ddigwyddodd? Doedd yr injan ddim yno! Neidiodd un dyn allan mewn dychryn a brifo’i goes. ‘William! O .. be sydd wedi digwydd?’ sgrechiodd Mam. ‘Peidiwch â chynhyrfu. Aroswch yn y cerbydau,’ gwaeddodd y rheolwr. ‘Ond William! Lle mae William?’ gwaeddodd Mam. ‘Mae o a’r taniwr wedi neidio’n ddiogel.’ cysurodd y rheolwr. Ond roedd cwymp yr injan wedi taro’r gwifrau telegraff a’r ceblau wrth ochr y lein. Ac roedd trên ENID wedi cychwyn o’r copa! Neidiodd y giard allan a rhedeg i fyny’r trac i’w rhybuddio. Ond yn rhy hwyr! ‘AAAGHH!’ gwaeddodd pawb wrth i ENID daro’r cerbydau nes iddynt sgrealu i lawr y trac. ‘AAAGHH!’ sgrechiodd Llinos yr un eiliad yn ei llofft. Rhuthrodd ei mam yno. ‘Hunllef gefaist ti?’ holodd. ‘I .. ia,’ atebodd Llinos yn grynedig. Roedd hi’n laddar o chwys. Ond doedd neb wedi brifo yn y gwrthdrawiad ar yr Wyddfa, yn nac oedd? Dim ond y dyn hwnnw a neidiodd allan. Fe gofiai hynny oddi wrth y gwaith project. Ond diolch i’r hunllef, fe gafodd hi syniad ardderchog am stori!
|
||