Trên y Wyddfa (haen 2)

‘Dyma eich gwaith cartre y penwythnos ‘ma,’ meddai Miss Jones. ‘Sgrifennu stori am reilffordd yr Wyddfa erbyn bore Llun.’

‘Ond rydw i’n chwarae pêl droed 'fory,’ grwgnachodd Tomos.

‘A finna’n mynd i siopio,’ meddai Llinos.

Roedd 'sgrifennu stori ar benwythnos yn faich ofnadwy.

Roedd Miss Jones eisio storïau ar gyfer prosiect y dosbarth. Cyd-gerddodd y ddau i gyfeiriad eu cartrefi yn benisel. Doedden nhw ddim yn hoffi 'sgrifennu stori ar ben wythnos!

Bu Llinos yn chwilio am syniad da trwy y gyda’r nos. Ond er iddi bendroni, fedrai hi ddim meddwl beth i’w sgwennu. Ac wedi iddi fynd i’r gwely, bu’n troi a throsi wedyn cyn cysgu.

Cysgodd o’r diwedd. Breuddwydiodd. Diwrnod agor rheilffordd yr Wyddfa flynyddoedd yn ôl oedd hi ac roedd hi’n cerdded efo Mam am yr orsaf.

Gwisgai Mam sgert dywyll a het efo pluen ynddi, a gwisgai hithau ffrog coler lês a het wellt, a bwtias sglein am ei thraed. Teimlai ei dillad yn drwm annifyr.

Rhedodd criw o blant heibio’n swnllyd.

‘Dydi’r plant yma’n malio dim am achlysur mor bwysig,’ meddai Mam yn biwis. ‘Rhag cywilydd iddyn nhw gadw reiat.’

Ochneidiodd Llinos. Mi fuasai hi wrth ei bodd yn cael rhedeg a chwarae efo’r plant eraill. Ond châi hi ddim am fod Mam ar bigau drain. Dad oedd yn dreifio un o’r trenau heddiw, ac roedd Mam ofn i rywbeth fynd o’i le.

‘Mi fydd pawb yn edrych arnon ni,’ rhybuddiodd. ‘Cofia di bihafio.’

‘Iawn,’ ochneidiodd Llinos.

Ond O! Mor braf fuasai cael hwyl efo Tomos a’r lleill. Roedden nhw’n chwarae mig rhwng y cerddwyr ac yn cael lot o hwyl. Ond roedd llygaid barcut Mam arni hi.

Codai ager yn llinyn diog o gyrn y ddwy injan pan gyrhaeddon nhw’r orsaf. Tad Tomos oedd dreifar injan ENID, a Dad oedd dreifar injan LADAS. Roedd Llinos eisio rhedeg at LADAS i siarad efo Dad. Efallai y buasai hi’n cael dringo i’r caban hefyd.

Ond fe wyddai nad oedd siawns o hynny. Syllai Dad a’r taniwr allan o gaban LADAS. Roeddynt yn edrych yn bwysig, ond ar binnau hefyd.

‘Hei, Llinos!’ gwaeddodd Tomos wrth ruthro heibio. ‘Dwad?’

‘Dwad wir,’ dwrdiodd Mam. ‘Does dim cow ar yr hogyn Tomos ‘na.’

Casglodd torf fawr ar y platfform ymhell cyn amser cychwyn. Hanner awr wedi deg oedd yr amser cychwyn swyddogol, ond doedd rhai o'r pobl bwysig ddim wedi cyrraedd. Felly roedd yn rhaid i bawb ddisgwyl.

‘Mi fyddwn yn cychwyn am ddeg munud i unarddeg,’ cyhoeddodd swyddog. ‘Dyma ddiwrnod bythgofiadwy. Ebrill 6ed 1986, diwrnod siwrnai gyntaf rheilffordd yr Wyddfa.’

‘Hwre!’ gwaeddodd pawb.

Dylyfodd Llinos ên yn ddiflas. Roedd ei choesau’n stympiau blinedig wedi’r holl ddisgwyl a gwrando ar bobl yn bragowthan hefyd.

‘Mam!’ sibrydodd. ‘Mae nhraed i’n brifo!’

‘Sssh!’ hisiodd Mam yn ddiamynedd. ‘Sgin i ddim amser i ddawnsio tendans arnat ti.’

Cafodd pawb ddringo i’r cerbydau o’r diwedd. Roedd Mam a hithau’n teithio yn un o gerbydau LADAS am mai Dad oedd y dreifar. Ond trên ENID efo tad Tomos yn dreifio oedd yn cychwyn gyntaf.

‘Wela i di!’ gwaeddodd Tomos gan wenu fel gât.

‘Iawn!’ gwaeddodd hithau.

‘Sssh!’ rhybuddiodd Mam ar binnau.

Ond doedd dim ots gan Llinos. Dringodd i’r cerbyd ochr agored. Hongiai llenni o bobtu tyllau'r ffenestri yn barod i’w cau pan fyddai’n oer. Ond diwrnod braf heulog oedd hi heddiw.

Swniodd y corn wrth iddynt gychwyn. Gwingodd Llinos ar ei sedd wrth iddynt ddringo’n drafferthus am y copa.

‘Mae’r defaid a’r gwartheg yn smotiau bach,’ chwarddodd.

Yn fuan, estynnai’r llethrau moel o bobtu iddynt. Tybed lwyddai’r injan i’w gwthio yr holl ffordd? Tybed oedd Tomos wedi cyrraedd erbyn hyn?

Cyraeddasant o’r diwedd. Curai calon Llinos wrth iddi ddringo o’r cerbyd a chychwyn cerdded i fyny’r llwybr cul i’r copa. Roedd hi ar ben yr Wyddfa, mynydd uchaf Cymru a Lloegr, o’r diwedd!

Hwre! meddyliodd wrth edrych ar y caffi, y garnedd gerrig, a’r creigiau yn blith draphlith o gwmpas.

‘Grêt, te!’ gwaeddodd Tomos gan sboncio fel gafr i ben carreg fawr. Safodd arni a chwpanu ei ddwylo. ‘IYHOO!’ gwaeddodd nerth ei ben.

‘Celpan mae o eisio,’ dwrdiodd Mam. ‘Yn cambihafio a dangos ei hun fel hyn.’

Ond doedd dim amser i loetran yno. Roedd cymylau yn casglu oddi tanynt a niwl ysgafn yn cuddio’r copa.

Trên LADAS oedd y cyntaf i gychwyn. Chwifiodd Llinos ei llaw ar Tomos.

Ymlaciodd Mam o’r diwedd.

‘Fyddwn ni fawr o dro rwan,’ meddai’n ddiolchgar. ‘Ac mi gaiff Dad glôd mawr am ddreifio LADAS.’

‘OOOO!’ gwaeddodd wrth i’r cerbyd frecio’n sydyn.

Clywsant glec anferth a dynion yn gweiddi ar dop eu lleisiau. Yna daeth swn malurio a chwympo wrth i rywbeth ddymchwel i lawr y dibyn.

Syllodd pawb trwy’r ffenest yn syn. Beth ddigwyddodd? Doedd yr injan ddim yno! Neidiodd un dyn allan mewn dychryn.

‘William! O .. be sydd wedi digwydd?’ sgrechiodd Mam.

‘Mae o a’r taniwr wedi neidio’n ddiogel,’ cysurodd y rheolwr.

Ond roedd cwymp yr injan wedi taro’r gwifrau telegraff a’r ceblau wrth ochr y trac. Ac roedd trên ENID wedi cychwyn o’r copa.

Rhedodd y giard i fyny’r trac i’w rhybuddio. Ond yn rhy hwyr!

‘AAAGHH!’ gwaeddodd pawb wrth i ENID daro’r cerbydau nes iddynt sgrealu i lawr y trac.

‘AAAGHH!’ sgrechiodd Llinos yr un eiliad yn ei llofft.

Rhuthrodd Mam yno.

‘Hunllef gefais ti?’ holodd.

‘I .. ia,’ atebodd Llinos yn grynedig.

Roedd hi’n laddar o chwys. Ond cofiodd am y gwaith prosiect. Doedd neb wedi brifo yn y gwrthdrawiad, yn nac oedd? Dim ond y dyn hwnnw a neidiodd allan.

Ond fe gafodd hi syniad ardderchog am stori. Diolch i’r hunllef!