|
Gweithgaredd 4 Yn y rhan isod o’r stori mae teimladau cymysg gan Huw. Mae’n profi iselder a gobaith. Tanlinellwch mewn coch y cymalau sy’n dangos yr anobaith, a thanlinellwch mewn gwyrdd y cymalau sy’n dangos gobaith. Tynnodd Huw ei gôt a’i esgidiau. Yna pwysodd ar y prennau a thaflu ei hun i’r tonnau. Ond Ow! Trodd y cyfan drosodd oddi tano. Llyncodd ddwr hallt oer wrth suddo, ond gafaelodd fel gelen yn y prennau a llwyddo i godi ei ben uwch y dwr. Pellhaodd lleisiau gwan y teithwyr wrth i’r tonnau ei sgubo ymaith. Ceisiodd nofio trwy’r lli. Ond teimlai ei gorff fel lwmpyn o rew. Doedd waeth iddo ollwng y prennau ddim. Ond eto, rywsut, fe ddaliai i obeithio. Yna gwelodd oleuni yn y pellter. Golau Tal-y-Foel tybed? Rydw i’n agos at yr arfordir, meddyliodd yn ddiolchgar. "Help! HELP!" gwaeddodd yn floesg. Ond doedd dim ymateb o’r lan. Ac yn fuan diflannodd y goleuni wrth i’r llanw ei gludo heibio. Digalonnodd. "Fedra i ddim dal ati ragor," meddyliodd. Ond roedd yn rhaid iddo. Cludodd y tonnau ef yn ôl ac ymlaen. Weithiau tua’r lan yna yn ei gipio’n ôl drachefn.
Dychmygwch mai chi ydy Huw Williams. Ysgrifennwch ymson yn y person cyntaf i ddisgrifio eich gobaith a’ch anobaith tra roeddech yn y dwr.
|