Trychineb Cwch Aber Menai (haen 2)

Safodd Huw Williams yng nghysgod drws un o siopau’r Maes. Cododd goler ei gôt a throdd at ei ffrind.

‘Mae’n hen bryd i’r fferi gychwyn, John,’ meddai.

‘Dydi’r ffair ddim ar ben eto,’ atebodd John.

‘Mi awn ni i’r cei,’ meddai Huw. ‘Efallai bod pawb wedi cyrraedd erbyn hyn.’

Roedd yn ddiwrnod oer a gwyntog ym Mis Rhagfyr. Chwyrlïai’r gwynt o’u cwmpas a chwipiai ddwr y cei yn aflonydd. Doedd fawr neb o’r teithwyr wedi cyrraedd.

‘Mae bron yn bedwar o’r gloch,’ meddai Huw wrth y rhwyfwyr. ‘Pa mor fuan y medrwn ni gychwyn?’

‘Wedi i pawb gyrraedd,’ oedd yr ateb surbwch.

Edrychodd y ddau ar ei gilydd.

‘Mae’r llanw’n isel am bump,’ poenodd John.

Roedd Huw ar binnau. Efo’r llanw mor isel cael a chael fyddai rhwyfo’n ddiogel rhwng y tywod-fanciau! Ond roedd criw y fferi wedi hen arfer croesi’r Fenai, meddyliodd.

‘Rhowch draed arni. Mae’n hwyr,’ grwgnachodd y rhwyfwyr wrth i’r gweddill o’r teithwyr gyrraedd.

Roedd y fferi dan ei sang. Dechreuodd Huw Wiilliams gyfrif. Pum deg pump!

‘Mae hi’n llawn iawn, John,’ meddai’n isel.

Morwr gwael iawn oedd John. Ac erbyn hyn, roedd o’n dyheu am gael cyrraedd Môn yn ddiogel.

Rhwyfodd y criw allan i’r lli. Roedden nhw wedi syrffedu disgwyl wrth bobl hwyr.

Cryfhoadd y gwynt fwyfwy, a phenderfynodd y criw rwyfo’n glós at ochr Caernarfon er mwyn cysgodi ychydig.

Siaradai’r teithwyr yn hapus. Roedden nhw wedi mwynhau prynu a gwerthu nwyddau yn y ffair, a bargeinio am bethau yn eu lle.

Pwysai’r plant yn swrth ar eu rhieni wrth hepian cysgu. Edrychai pawb ymlaen at gyrraedd adre a chael swper poeth o flaen y tân.

O’r diwedd, cyrhaeddodd y fferi gyferbyn â’r Traethau Gwylltion. Dau dywod-fanc yng nghanol yr afon oedd y rheiny.

Arswydodd Huw wrth edrych arnynt. Wnâi y fferi byth basio heibio’n ddiogel.

‘A’ch holl egni,’ gwaeddodd y rhwyfwyr wth weld y perygl.

‘Mam! Mam! Ydyn ni am foddi?’ wylodd y plant.

‘Nac ydyn, siwr,’ cysurodd eu mamau.

Daeth plwc sydyn a bu bron i bawb syrthio i waelod y cwch. Roedden nhw’n sownd ar y tywod-fanc! Edrychodd pawb ar ei gilydd yn syfrdan. Roedden nhw wedi dychryn gormod i ddweud bw na be. Yna dechreuodd y plant a’u mamau weiddi a sgrechian wrth i’r tonnau arllwys i’r cwch.

‘Hwyth i’w rhyddhau! gwaeddodd y dynion cryfaf gan neidio o’r cwch.

Dringodd John a Huw allan hefyd. Teimlai John yn sâl, ond ceisiodd anghofio’r salwch wrth geisio gwthio’r cwch oddi ar y tywod. Chwythai’r gwynt a bygwth eu hyrddio’n bendramwnwgl i’r dwr. Ac er iddynt wthio a gwthio, fe daflai’r fferi yn ôl ar y tywod bob tro.

Dechreuodd y môr lenwi’r cwch.

‘Allan â chi,’ gwaeddodd y rhwyfwyr. ‘Mae’r cwch yn suddo.’

‘Fedran ni ddim! O mam bach! Be wnawn ni,’ wylodd y teithwyr.

Safodd pawb ar y tywod-fanc yn crynu a gafael yn ei gilydd tra codai’r tonnau o’u cwmpas.

‘Help!’ gwaeddodd pawb. ‘HELP!’

Canodd cloch yn bell ar y lan. Y gloch rybudd! Cododd gobeithion pawb.

‘Fyddan nhw fawr o dro cyn ein hachub,’ meddai John yn ddiolchgar.

Ond doedd Huw ddim mor siwr. Roedd y tonnau’n crafangu’n nes. Doedd dim amser i’w golli.

‘Rhaid ceisio nofio’r lli,’ penderfynodd.

Gafaelodd mewn hwylbren. Estynnodd John rwyf iddo oddi ar y tywod.

‘Fedra i ddim nofio,’ cyfaddefodd.

‘Dim ots. Mi ofala i amdanat ti,’ meddai Huw.

Clymodd y rhwyf a’r hwylbren yn eu gilydd efo rhaf wellt o’r fferi.

‘O! Achubwch ni!’ gwaeddodd y teithwyr.

Roedd cychod yn agosau, ond tybed fedren nhw eu hachub?

‘Achubwch ni! O .. achubwch ni,’ erfyniodd pawb.

Ond roedd yn rhy beryglus .. ac yn rhy dywyll. Beth petae y cychod achub yn mynd yn sownd hefyd?

Estynnodd John ei wats i Huw.

‘Rho hi i fy nheulu os na cha i fy achub,’ meddai.

Craffodd Huw arno.

‘Wyt ti ddim am drio nofio?’

‘Na. Mi fydda i’n iawn.’

Tynnodd Huw ei gôt a’i esgidiau. Pwysodd ar y prennau a gollwng ei hun i’r tonnau. Ow! Trodd y cyfan trosodd a’i daflu o dan y dwr. Llyncodd gegaid o ddwr hallt wrth suddo, ond gafaelodd fel gelen a llwyddo i godi ei ben uwch y dwr,

Pellhaodd y lleisiau gwan. Doedd dim ond môr a gwynt a thonnau o’i gwmpas bellach. Teimlai ei gorff fel lwmpyn o rew. Doedd waeth iddo ollwng y prennau ddim. Ond eto, fe ddaliai i obeithio.

Yna gwelodd olau yn y pellter. Golau Tal-y-Foel, tybed?

‘Help! HELP!’ gwaeddodd.

Ond diflannodd y golau wrth i’r môr ei gludo heibio.

‘Fedra i ddim dal ati fel hyn,’ meddyliodd yn ddigalon.

Cludodd y tonnau ef yn ôl ac ymlaen. Weithiau’n agos at y lan, yna’n bell drachefn.

Yna teimlodd dywod a cherrig mân oddi tano. Y lan! Ymgripiodd yn flinedig i fyny’r traeth nes cyrraedd cysgod bôn clawdd. Arhosodd yno am amser hir.

Ond roedd yn rhaid iddo symud. Roedd ei gorff mor oer a’r grepach yn cerdded ei gorff. Cododd yn afrosgo. Syrthiodd. Roedd ei goesau wedi rhewi’n gorn.

Gafaelodd mewn gwreiddyn draenen a thynnu ei hun i fyny. Doedd waeth am y cripiadau gwaedlyd ar ei ddwylo.

Gwelodd olau pell unwaith eto. Tal-y-Foel! Baglodd i’w gyfeiriad. Ond roedd symud un droed heibio’r llall yn farathon. Doedd o byth am gyrraedd. Fuodd o erioed mor oer a gwlyb a blinedig. Baglodd yn igam ogam am y drws.

‘Be ydi’r swn yna?’ gofynnodd merch Tal-y-Foel gan edrych trwy’r ffenest.

Gwelodd gysgod Huw.

‘Ysbryd! Ysbryd!’ sgrechiodd nerth ei phen.

‘Lol botes!’ wfftiodd ei thad.

Yna gwelodd Huw.

‘Dowch i mewn ar unwaith,’ gorchmynnodd. ‘Gwnewch ddiod cynnes a photel ddwr poeth i’w ddadebru,’ gwaeddodd. ‘Brysiwch!’

Erbyn bore trannoeth, fe lonyddodd y gwynt. Ond ni achubwyd neb arall o’r fferi. Dyna lwcus fu Huw Williams.

Tybed wyddoch chi am ddau Huw Williams arall a achubwyd o’r Fenai? Un mewn trychineb yn 1785, medden nhw, ac un arall yn y flwyddyn 1820?