|
ADAR Y MÔR (haen 1) O gwmpas glannau’r moroedd, mae cannoedd o adar yn
byw. Mae’n nhw’n byw ar bysgod a mân greaduriaid eraill. Dim ond yn
ystod y tymor nythu y byddan nhw’n dod i’r tir mawr. Ar yr adegau
eraill fe fyddan nhw’n treulio’u hamser ar y môr. Bydd rhai adar yn nythu ar y creigiau ynghanol
y môr, yn bell o bob man. Bydd teulu’r gwylanod yn nythu ar ben
adeiladau o gwmpas yr arfordir. Bydd adar fel y llurs a’r wylog yn
nythu ar greigiau serth yr arfordir. Mewn twll, fel twll cwningen,
y bydd yr aderyn pâl yn gwneud ei nyth. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae llawer o adar
môr wedi marw. Fe ddigwyddodd hyn oherwydd bod dwr y môr wedi ei lygru.
Mae nifer mawr o danceri olew wedi arllwys yr olew i’r môr ac mae hyn
yn ei dro wedi lladd yr adar . Mae’r olew wedi mynd i’w plu ac felly
yn eu rhwystro rhag hedfan. Mae’r adar sy’n byw ar y môr wedi
dioddef llawer iawn. Hyd oddeutu 41 cm. Aderyn du a gwyn, tebyg i’r
pengwyn, gyda stribed wen ar draws ei big. Yn ystod y gwanwyn bydd yr
iâr yn dodwy un wy, weithiau ar y graig noeth, dro arall mewn hafn yn y
graig neu o dan y graig. Mae’r wyau yn amrywio yn eu lliwiau o wyn
lliw hufen, i wyrdd – las a hyd yn oed frown. Mae’r llurs yn aderyn
cyffredin iawn ar arfordir Cymru, yn enewdig ar lannau Môn a glannau
Sir Benfro. Hyd oddeutu 30 cm. Mae hwn yn cael ei alw’n glown y byd adar gan fod ganddo big rhyfedd iawn. Pig mawr, amryliw ydi o , sy’n edrych fel petai rhy fawr o lawer ar gorff yr aderyn. Yn ystod y gwanwyn bydd yr aderyn pâl yn nythu mewn tyllau ar y tir mawr. Fel y llurs a’r gwylog dim ond un wy y bydd yr iâr yn ddodwy – wy gwyn efo brychau brown arno. Pan fydd yr adar pâl yn hedfan yn ôl i’r nyth ar ôl bwydo yn y môr bydd y gwylanod cefn-ddu yn ymosod arnyn nhw a’u lladd. Creaduriaid yn Ymfudo. Mae llawer o greaduriaid yn teithio o dan donnau’r môr. Mae rhai yn teithio cannoedd ar gannoedd o gilometrau, eraill ychydig o gilometrau. Yr enw ar y math yma o deithio ydi YMFUDO. Mae anifeiliaid yn ymfudo am ddau reswm:- (a) i chwilio am fwyd (b) i fagu. Bydd rhai morfilod yn ymfudo o ddyfroedd oer i ddyfroedd cynhesach o gwmpas y cyhydedd. Ar y llaw arall bydd rhai pysgod yn ymfudo o ddwr croyw i ddwr hallt y môr. Mae’r eog yn enghraifft dda o hyn. Dwy neu dair gwaith yn ystod eu bywydau bydd yr eog yn gadael dwr y môr ac yn teithio i afonydd dwr croyw. Bydd yr afonydd hyn gryn bellter o gyrraedd y môr. Bydd y crwban môr yn ymfudo bellteroedd o’r ardaloedd mae’n nhw’n byw i ardal cwbl wahanol i ddodwy wyau. Dydi’r rhain ddim yn dodwy yn y môr, Mae’n nhw’n llusgo i fyny’r traeth i ddodwy eu hwyau yn y tywod ar lan y môr. Yn union fel yr eog fe fyddan nhw’n dodwy yn yr un llecyn bob tro. Mae hyn wedi digwydd ers canrifoedd ar ganrifoedd. Mae môr Sargasso yng nghanol Cefnfor Iwerydd. Yno mae’r llysywennod yn magu. Dydi’r llecyn hwn o ddwr tawel ddim ymhell o arfordir Gogledd America. Ar wyneb y dwr mae haenan o wymon gwyrdd yn arnofio. Mae hyn yn ei dro yn fwyd i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Yn y rhan yma y bydd y llysywennod yn dodwy eu hwyau. Ar ôl i’r llyswennau (llysywennod bach) ddeor o’r wyau a dechrau bwydo ar y tyfiant o gwmpas fe fyddan nhw’n dechrau nofio o gwmpas. Ymhen dim bydd Llif y Gwlff yn eu cario dros y moroedd i’r afonydd lle roedd eu rhieni wedi byw. Yma y byddan nhw’n aros hyd y byddan nhw’n oedolion. Yna fe fyddan nhw’n gwneud y daith yn ôl i Fôr Sargasso i ddodwy wyau. Ar ôl iddyn nhw ddodwy fe fydd yr oedolion yn marw. Mae adar y môr yn ymfudo hefyd. Un o’r enghreifftiau gorau ydi hanes Môr Wennol y Gogledd. Mae hwn yn ymfudo o Begwn y Gogledd i Begwn y De. Yna’n ôl erbyn y gwanwyn i ail ddechrau ar y daith. Bydd yr aderyn i’w weld yng Nghymru yn ystod misoedd yr haf. Does neb yn gwybod pam yn union fod y Fôr Wennol yn teithio mor bell mewn blwyddyn. Ond yn wir, mae’n daith anhygoel. Ynys yn codi o’r môr. Wel, wrth gwrs mae pob ynys yn codi o’r môr. Ond dyma i chi hanes am bysgotwyr yn gweld ynys yn cael ei geni. Un munud dim ond môr oedd yna a’r munud nesaf roedd ynys wedi ymddangos yng nghanol y môr. Mae tir a’r môr o gwmpas Ynys yr Iâ yn oer iawn. Gan fod Ynys yr Iâ i’r Gogledd o Gymru mae’r tywydd i fyny yno yn oerach o lawer yn yr haf na’r gaeaf. Ond mae’n rhaid dweud fod y gaeaf yn oer iawn, iawn yn Ynys yr iâ. Ar Tachwedd 14 1963 roedd criw o bysgotwyr yn pysgota yn y dyfroedd oer yn ne Ynys yr Iâ. Yn sydyn daeth swn fel ffrwydriad o waelod y môr. Doedd neb yn gwybod beth oedd wedi digwydd. Roedd rhai o’r pysgotwyr yn credu bod ffrwydriad wedi digwydd ar y tir mawr. Roedd eraill yn sicr bod y ffrwydriad wedi digwydd yng ngwaelod y môr. Erbyn y noson ganlynol roedd darn o dir, fel craig fawr ddu, wedi ymddangos ar wyneb y môr. O ganol y darn tir yma roedd mwg gwyn yn codi bron 15 km i’r awyr. Roedd y môr o gwmpas yn ferw o gymylau a stêm. Ymhen ychydig ddyddiau daeth gwyddonwyr yno i archwilio beth yn union oedd wedi digwydd. Roedd folcano wedi codi o waelod y môr. Ymhen dim amser roedd ynys fechan wedi ymddangos. Dyma ynys newydd sbon ac fe roddwyd enw arni – Ynys Surtsey. Fel roedd yr wythnosau yn mynd heibio roedd y tir wedi codi 40m uwchlaw lefel y môr. Cyn bo hir roedd y folcano wedi gorffen llosgi. Gan na fedr lludw ar ei ben ei hun gynnal bywyd nid oedd dim o gwbl yn tyfu ar yr ynys. Ond ymhen chwe mis dechreuodd lafa poeth redeg o ganol yr ynys. Pan oedd y lafa berwedig yma’n cyffwrdd â dwr oer y môr roedd yn caledu yn graig ddu. Roedd y graig yn ddigon cryf i wrthsefyll tonnau’r môr. Erbyn diwedd 1964 roedd yna garped o dyfiant gwyrdd ar wyneb yr ynys. Roedd y gwynt yn chwythu hadau ac roeddynt yn dechrau egino yng nghanol y carped gwyrdd. Erbyn hyn mae yna wahanol fathau o blanhigion yn tyfu ar Ynys folcanig Surtsey. Nid dyma’r tro cyntaf i ynys fel Ynys Surtsey ymddangos o ganol y môr ac nid hwn fydd y tro olaf chwaith. Gor bysgota. Mae pysgod yn rhan bwysig iawn o fwydlen miliynau o bobl ar hyd a lled y byd. Yn ôl dietegwyr mae pysgod yn dda iawn i’r corff gan eu bod yn cynnwys olew sy’n dda i’r galon a chylchrediad y gwaed. Yn y moroedd o gwmpas Prydain mae penfras a chor benfras yn cael eu pysgota yng ngogledd môr Iwerydd, a chegddu yn ne môr Iwerydd. Yn y dyfroedd cynnes o gwmpas y cyhydedd mae’r cimychiaid, crancod a gorgimychiaid yn cael eu dal. Yn y dyfroedd oer ar hyd arfordir De Affrica mae pysgotwyr yn dal penwaig Mair a brwyniaid. Bydd llongau pysgota arbennig yn mynd allan i bysgota a hynny yn ystod tywydd garw’r gaeaf. Mae rhewgelloedd pwrpasol ar y llongau erbyn hyn. Fe allan nhw aros ar y môr am chwe mis a mwy nes bydd yr howldiau yn llawn o bysgod. Y perygl mawr y dyddiau hyn ydi gor- bysgota. Yn ystod y degawd olaf mae niferoedd rhai rhywogaethau wedi gostwng yn arw iawn. Un o’r pysgod sy’n cael eu gor – bysgota ydi’r penfras. Yn 1992 fe benderfynodd pysgotwyr Canada beidio â physgota’r penfras rhag ofn iddo ddiflannu am byth. Y pryder mawr ydi os bydd un rhywogaeth yn cael ei or – bysgota yna bydd pysgotwyr yn mynd ati i ddal pysgodyn arall a’r pysgodyn hwnnw yng Nghanada ydi’r torbwt neu’r lleden arw. Yn ystod yr ugain mlynedd olaf mae niferoedd y cychod pysgota wedi dyblu. Erbyn hyn mae ganddyn nhw rwydau sy’n eu galluogi i ddal mwy o bysgod nag erioed. Mae’r rhwydau enfawr yma yn llusgo gwely’r môr hyd yn oed ac yn casglu pob math o fywyd gwyllt. Mae’r rhain yn gwneud niwed mawr i’r bywyd gwyllt sydd ar waelod y môr. Bydd y pysgotwyr yn taflu pysgod a chreaduriaid eraill yn ôl i’r môr. Ond yn aml iawn mae llaweroedd o’r creaduriaid wedi marw gan eu bod wedi aros yn rhy hir allan o ddyfroedd hallt y môr. Yn rhai o wledydd tlawd y byd bydd llongau pysgota enfawr yn cyrraedd ac yn pysgota gymaint a 2,000 tunnell o bysgod. Mae hyn gymaint â 1500 o longau pysgota bychain fydd yn pysgota yn lleol o gwmpas y glannau. Mae hyn yn digwydd y dyddiau hyn ar arfordir Senegal. Felly mae pysgotwyr lleol yn gweld eu pysgod yn diflannu ac oherwydd hyn mae bwyd i bobl y wlad sy’n byw o gwmpas y glannau yn diflannu hefyd. Yn ystod y can mlynedd olaf yma mae nifer mawr o forfilod wedi cael eu lladd. Ar arfordir America roedd canolfannau lle roeddyn nhw’n mynd a’r morfilod ar ôl eu lladd. Roedd cig ag olew o’r morfilod yn cael eu ddefnyddio. Ar ôl 1980 fe benderfynwyd nad oedden nhw am ladd mwy o forfilod. Daeth diwedd ar forfila ac erbyn hyn mae llawer o longau morfila yn rhydu ar lannau môr America.
|
||