|
ADAR Y MÔR (haen 2) Mae llawer o adar yn byw ar lannau’r môr. Mae nhw’n bwyta pysgod ac anifeiliaid bach eraill. Fe fyddan nhw’n nythu ar y tir mawr. Bydd rhai adar yn nythu ar y creigiau. Bydd eraill, fel gwylanod, yn nythu ar adeiladau. Bydd y llurs a’r wylog yn nythu ar y creigiau. Bydd yr aderyn pâl yn nythu mewn twll. Dyma hanes rhai o adar y môr LLURS: Mae hwn yn mesur 41cm o’i ben i’w gynffon. Aderyn du a gwyn, tebyg i’r pengwyn ydi o. Mae stribed wen ar draws ei big. Bydd yr iâr yn dodwy un wy. Mae lliw yr wy yn amrywio. Mae rhai yn wyn fel hufen. Mae eraill yn wyrdd – las. Mae rhai hyd yn oed yn frown. GWYLOG: Mae’r aderyn hwn yr un maint â’r llurs. Ym mis Mai bydd yr iâr yn dodwy un wy ar y graig. Mae siap arbennig i’r wy. Oherwydd fod ganddo siâp arbennig ni fydd yr wy yn syrthio oddi ar y graig. Mae rhai wyau yn wyrdd – las. Mae eraill yn frown efo smotiau brown arnyn nhw. ADERYN PÂL: Mae hwn yn mesur 30cm o’i ben i’w gynffon. Mae ganddo big mawr amryliw. Bydd yr adar pâl yn nythu mewn twll fel twll cwningen. Bydd yr iâr yn dodwy un wy. Wy gwyn efo brychau brown arno. Mae gan yr aderyn pâl elyn. Mae yr wylan gefn ddu yn ymosod ar yr aderyn pâl. Creaduriaid yn Ymfudo. Mae anifeiliaid yn teithio o dan y môr. Mae rhai yn teithio llawer iawn, eraill ychydig bach. Yr enw ar y teithio yma ydi YMFUDO. Mae’n nhw’n teithio am ddau reswm (a)i chwilio am fwyd (b) i faguDyma rai o’r anifeiliaid sy’n ymfudo: MORFIL: Mae rhai morfilod yn teithio o ddwr oer y môr i ddwr cynnes o gwmpas y cyhydedd. EOG: Bydd yr eog yn nofio o ddwr y môr i ddwr croyw yr afonydd. Fe fyddan nhw’n dodwy eu hwyau yn yr afonydd. LLYSYWEN: Mae’r llysywennod yn magu ym Môr Sarasso. Mae’r môr hwn yng nghanol Cefnfor Iwerydd. Yn y rhan yma o’r cefnfor mae’r môr yn dawel. Yma hefyd mae digonedd o fwyd. Bydd y llysywennod yn dodwy eu hwyau yn y gwymon sy’n arnofio ar wyneb y dwr. Ar ôl i’r llyswennau bach gael eu geni fe fyddan nhw’n nofio yn y gwymon. Yna bydd Llif y Gwlff yn eu cario ar draws y moroedd. Fe fyddan nhw yn y man yn nofio i fyny’r afonydd. Yma y byddan nhw’n byw cyn mynd yn ôl i Fôr Sargasso i ddodwy eu hwyau. Yna bydd yr oedolion yn marw. MÔR WENNOL Y GOGLEDD: Mae adar y môr yn ymfudo hefyd. Mae Môr Wennol y Gogledd yn ymfudo o Begwn y Gogledd i Begwn y De. Mae’r aderyn hwn i’w weld yng Nghymru yn ystod yr haf. Dyna i chi daith hir, yn wir! Ynys yn codi o’r môr Dyma hanes am ynys yn codi o’r môr. Fe ddigwyddodd hyn o gwmpas Ynys yr Iâ. Mae hi’n oer iawn, iawn o gwmpas Ynys yr Iâ. Ar Tachwedd 14 1963 roedd pysgotwyr yn pysgota o gwmpas Ynys yr Iâ. Fe glywson nhw swn ffrwydro. Daeth y swn ffrwydro o waelod y môr. Erbyn y noson ganlynol roedd darn o dir wedi dod allan o’r môr. Roedd mwg gwyn yn codi o ganol y darn tir. Roedd stêm a chymylau ymhob man. Daeth gwyddonwyr yno i archwilio. Roedd folcano wedi dod allan o’r môr. Dyma ynys newydd sbon. Dyma ynys Surtsey. Ymhen rhai wythnosau roedd yr ynys wedi codi 40m uwchlaw’r môr. Dechreuodd lafa poeth redeg o ganol yr ynys. Pan oedd y lafa poeth yn cyfarfod â’r môr roedd yn caledu. Roedd y graig yn mynd yn galed iawn. Erbyn diwedd 1964 roedd planhigion yn dechrau tyfu ar yr ynys. Nid hwn oedd y tro cyntaf i ynys godi o’r môr. Nid hwn fydd y tro olaf chwaith. Gor bysgota. Mae pysgod yn fwyd i lawer o bobl y byd. Mae pysgod yn dda iawn i’r corff. Yn y moroedd o gwmpas Prydain mae gwahanol fathau o bysgod yn cael eu dal. Gogledd Môr Iwerydd – penfras,corbenfras De Môr Iwerydd – cegddu Gwledydd o gwmpas y cyhydedd – crancod, cimychiaid, gorgimychiaid De Affrica – penwaig Mair, brwyniaid Mae rhewgelloedd ar y llongau pysgota. Mae’n nhw’n gallu aros allan ar y môr am chwe mis a mwy. Erbyn heddiw, mae llawer gormod o bysgota. Yr enw ar hyn ydi gor – bysgota. Mae’r penfras wedi cael ei or – bysgota. Dydi pysgotwyr ddim yn pysgota’r penfras erbyn hyn. Mae yna longau pysgota enfawr yn dal y pysgod. Mae ganddyn nhw rwydau anferth sy’n dal pob math o greaduriaid. Er bydd rhai o’r creaduriaid yn cael eu taflu’n ôl i’r môr, bydd rhai ohonyn nhw wedi marw. O gwmpas y gwledydd tlawd mae llongau mawr yn pysgota. Dydi hyn ddim yn rhoi cyfle i’r llongau bach ddal pysgod. Oherwydd hyn dydi’r bobl leol ddim yn cael digon o bysgod i’w bwyta. Mae morfilod hefyd wedi diflannu. Ond erbyn heddiw dydi’r morfil ddim yn cael eu hela. Mae llongau hela’r morfil yn rhydu ar lannau America.
|
||