|
CANTRE’R GWAELOD (haen 1) Marchogodd y brenin Gwyddno Garanhir i ben clogwyn isel yng Ngantre’r Gwaelod. ‘Dyma’r wlad orau yn y byd, Seithenyn,’ meddai’n fodlon wrth ei stiward. ‘Mae fy ngwinllanoedd yn llawn o ffrwythau a’r caeau yn llawn o lysiau ac anifeiliaid. Does neb yn newynog yn fy ngwlad i. Mae fy mhobl yn dawnsio, canu a chwerthin bob dydd.’ ‘Ydyn wir, Arglwydd,’ atebodd Seithenyn. Syllodd y brenin o’i gwmpas. Roedd morglawdd efo dorau mawr ynddo yn y pellter. Pan fyddai’r llanw allan byddai Seithenyn yn agor y dorau er mwyn i ddwr yr afonydd lifo i’r môr. A phan fyddai’r llanw yn dod i’r lan, byddai’n eu cau drachefn i gadw’r môr o’r tir isel. ‘Gwlad dda a phrydferth ydi Cantre’r Gwaelod,’ meddai’r brenin. Trodd y ceffyl a marchogaeth tua’r brifddinas. Roedd ei fab Gronw yn cael ei benblwydd y diwrnod hwnnw. Trefnodd y brenin wledd fawr a gwahoddodd lawer iawn o bobl iddi. Byddai yna ddawnswyr a beirdd i ddiddanu pawb, a digon o win i’w yfed hefyd. Roedd wedi gwneud ei orau i sicrhau y byddai diwrnod penblwydd ei fab yn un o ddyddiau gorau’r flwyddyn. ‘Mae digon o amser cyn cau y dorau,’ meddai Seithenyn wrth ymuno yn y wledd. Bwytaodd lond ei fol o fwyd, ac yfodd sawl llymaid o win. ‘Diod arall, Mererid,’ gorchmynnodd gan estyn ei wydr i’r forwyn. Yn fuan, roedd yn feddw gaib. Dechreuodd Mererid boeni. Roedd hi’n siwr bod y gwynt yn codi a swn y môr i’w glywed yn y pellter. Oedd Seithenyn yn cofio am y dorau? Agorodd ddrws mawr y neuadd a gwrando. Clywodd ddwndwr y tonnau ar y traeth a theimlodd ewyn ysgafn ar ei hwyneb. ‘Mae’r llanw yn dod i mewn,’ meddai mewn dychryn. Brysiodd at Seithenyn. ‘Feistr,’ meddai. ‘Beth am y dorau?’ Ond roedd Seithenyn yn rhy feddw i gymryd sylw. ‘Diod arall, Mererid,’ gwaeddodd. ‘Rhaid dathlu penblwydd Gronw, fab y brenin.’ Cododd ar ei draed a dechrau canu’n feddw. Erbyn hyn rhuai corwynt o gwmpas y neuadd gan glecian yn erbyn y ffenestri hardd. Deuai dwndwr y tonnau yn nes ac yn nes. Rhedodd Mererid at y brenin. ‘Arglwydd!’ galwodd. ‘Beth am y dorau?’ ‘Mae Seithenyn wedi gofalu amdanyn nhw,’ meddai’r brenin gan wenu. ‘Ond .. beth tasai o ddim?’ meddai Mererid. Chwarddodd pawb. ‘Does dim angen poeni,’ medden nhw. ‘Mae popeth yn ddiogel.’ Doedd neb am wrando arni. Aeth Mererid i’r drws unwaith eto. Dychrynodd. Roedd y môr yn dylifo drwy’r dorau agored ac yn llyncu’r tir a’r tai a’r gwinllanoedd. ‘Y môr! Ffowch am eich bywydau!’ gwaeddodd. Chwarddodd pawb wrth glywed y fath ffwlbri. Y môr! Dim o’r fath beth! Rhedodd Mererid am y tir uchel. Roedd ei choesau’n wantan a’i hanadl yn boenus yn ei hysgyfaint. Disgynnodd yn lluddedig ar ben y llethr a syrthio i gysgu. Deffrodd bore trannoeth. Doedd dim i’w weld ond môr tawel a chloch yn canu’n ddigalon o dan y tonnau. Ac wrth ei hochr safai Gwyddno Garanhir yn wylo am ei wlad a ddiflannodd am byth!
|
||