|
CANTRE’R GWAELOD (haen 2) Marchogodd y brenin Gwyddno Garanhir i ben clogwyn i edrych ar ei wlad. ‘Gwlad braf ydi Cantre’r Gwaelod,’ meddai wrth ei stiward. ‘Mae pob gwinllan yn llawn o ffrwythau, a phob cae yn llawn o anifeiliaid a llysiau. Does neb yn dioddef o newyn. Mae pawb yn hapus.’ Nodiodd Seithenyn. ‘Ac mae’r morglawdd yn ein cadw’n ddiogel,’ meddai’r brenin eto. ‘Cofia gau’r dorau heno, Seithenyn.’ ‘Wrth gwrs, Arglwydd,’ atebodd Seithenyn. Gwaith Seithenyn oedd cau y dorau pan ddeuai’r môr i’r lan, a’u hagor wedyn pan fyddai’r llanw’n mynd allan. Roedd yn waith pwysig iawn. Aeth y brenin yn ôl i’r palas i baratoi erbyn gwledd penblwydd ei fab Gronw. Roedd Seithenyn yn hoff iawn o fwyta ac yfed. Ac roedd wrth ei fodd pan welodd y wledd penblwydd mab y brenin y noson honno. Anghofiodd bopeth am y dorau wrth fwyta ac yfed a mwynhau ei hun. ‘Tyrd â rhagor o win imi, Mererid,’ gwaeddodd ar y forwyn. Yn fuan roedd o’n feddw gaib. Roedd Mererid yn poeni wrth ei weld. Tybed oedd o wedi gofalu cau’r dorau cyn dod i’r palas? Agorodd y drws a gwrando. Roedd hi’n siwr bod y gwynt yn cryfhau. A beth tybed oedd y smotiau gwlyb a deimlai ar ei hwyneb? Rhedodd at Seithenyn. ‘Beth am y dorau?’ holodd. Ond roedd Seithenyn yn rhy feddw i’w hateb. Erbyn hyn roedd y gwynt yn udo o gwmpas ffenestri’r neuadd a swn y môr i’w glywed y tu allan. Rhedodd Mererid at y brenin. ‘Beth am y dorau?’ gwaeddodd. Chwarddodd pawb. Roedden nhw’n credu bod Seithenyn wedi cau’r dorau, ac nad oedd angen poeni. Rhedodd Mererid at y drws eto. Gwelodd y môr yn dylifo drwy’r dorau agored ac yn nesáu at y palas. ‘Rhedwch!’ gwaeddodd. ‘Mae’r môr wrth y drws!’ Ond ni wrandawodd neb. Rhedodd Mererid o’r palas ac am y tir uchel. Rhedodd nes cyrraedd tir uchel diogel. Syrthiodd i gysgu yn flinedig yno. Bore trannoeth deffródd. Roedd Cantre’r Gwaelod a’r bobl wedi diflannu. Doedd dim ar ôl ond môr tawel a chloch yn canu’n ddigalon rywle o dan y tonnau. Ond roedd Gwyddno Garanhir yn ddiogel wrth ei hochr. Roedd o’n wylo am ei wlad a ddiflannodd am byth!
|
||