|
CUDDIO (haen 1) Daeth Dani a Lowri i’r cei i wylio Dad yn cychwyn allan i bysgota. Llong bysgota fawr oedd y Wylan Wen. Byddai Dad arni am ddyddiau ar y tro. A phan ddeuai’n ôl byddai ganddo lond yr howld o benfras a hadog a mecryll. ‘Rydw inna am fod yn bysgotwr wedi imi dyfu i fyny,’ meddai Dani wrth ei efell. ‘A finna hefyd,’ meddai Lowri. ‘Dydi genethod ddim yn pysgota ar y môr mawr,’ meddai Dani. ‘Mi fydda i,’ meddai Lowri. Cafodd Dani syniad ardderchog. ‘Beth am fynd arni?’ meddai. ‘’Does neb yn gwylio.’ ‘Iawn,’ meddai Lowri. ‘Mi fedrwn ni guddio a mynd efo nhw i bysgota. Gêm?’ ‘Siðr iawn,’ atebodd Dani. Sleifiodd y ddau i fyny’r planc. Cuddiasant yn slei mewn cwpwrdd bychan wrth ymyl y caban. Clic! Caeodd y drws. Cyrcydodd y ddau yno yn llawn cynnwrf. Byddai’r Wylan Wen yn hwylio’n fuan! ‘Castiwch i ffwrdd,’ gwaeddodd llais Dad. Cynyddodd sðn yr injan wrth i’r llong brysuro o’r harbwr. Yn fuan, roedd hi’n codi a gostwng ar y tonnau. Dechreuodd y ddau deimlo’n sâl. Roedd hi’n boeth annifyr yn y cwpwrdd ac roedd eu coesau’n dechrau cyffio. A beth tasen nhw yno am yn hir .. hir? ‘Help!’ gwaeddodd y ddau.’HELP!’ Agorodd y drws. Edrychodd Dad yn syn arnynt. ‘Rydyn ni’n rhy bell i droi’n ôl,’ meddai’n ddig. ‘Rhaid anfon neges radio i Mam. Mi fydd yn poeni amdanoch chi.’ Fe wyddai’r ddau bod Dad yn ddig ofnadwy, ond roedden nhw wrth eu bodd ar y llong. A doedden nhw ddim yn teimlo’n sâl ragor. Ond Brrr! roedd hi’n dechrau oeri. Dechreuodd eu dannedd glecian. ‘Gwisgwch rhain i gadw’n gynnes,’ meddai Dad gan estyn siwmperau mawr a saneuau tew a sowesters iddynt. Dyna olwg od oedd arnynt. Cyrhaeddai y saneuau yn uwch na’u pengliniau, a disgynnai y siwmperau bron at eu fferau. Ac roedd y sowester fel soser fawr ar eu pennau. Gwyliodd Dani a Lowri y llongwyr yn gollwng y rhwydi i’r môr. Hwyliodd y llong ymlaen gan eu llusgo y tu ôl. Erbyn hyn, roedden nhw mhell o’r lan. Duodd yr awyr a chododd gwynt cryf i aflonyddu’r tonnau. ‘Ewch i’r caban. Mae’n codi’n storm,’ gwaeddodd Dad arnynt. Yna ...‘Codwch y rhwydi!’ bloeddiodd. Haliodd y llongwyr ar y rhwydi. Roedd yn waith anodd a’r môr yn dymchwel drostynt. Tynasant a thynasant yn galed. Tywalltodd pysgod yn gawod arian ar y dec. Roedden nhw wedi llwyddo! Trodd y Wylan Wen am adre. Tybed fedren nhw gyrraedd yn ddiogel? Sbonciai’r llong fel ceffyl gwyllt drwy’r tonnau a chwibanai’r gwynt yn swnllyd o’i chwmpas. Ond roedd Dad yn gwybod sut i lywio’r Wylan Wen yn ddiogel. Roedd wynebau Dani a Lowri yn wyn galchen erbyn cyrraedd. Roedden nhw’n sâl môr go iawn! Tybed wnaethon nhw fwynhau’r fordaith?
|
||